y mabinogi (mmorpg)

Nos Mercher diwetha', chwaraeais i'r gem MMORPG Mabinogi. Roedd o'n hwyl. Mi fydda i'n ceisio ysgrifennu adolygiad, ond mi fydd o'n anodd i dweud popeth yn Gymraeg. (:

Os wyt ti eisiau cyfanheddu byd "Cymru" a prancio mewn trefydd o'r enwau "Dyfed" neu "Gwynedd" (fel fi), mi fyddet ti'n siomedig. Mae'r byd yn galw "Erinn" ac y cyntaf tre ydy "Tir Chonaill". (BETH!!! meddyliais i. Dyna'r enwau Gwyddelig!) Mae dre o'r enw "Bangor" hefyd o leaif, ond Bangor ydy tre uwch, felly es i ddim yno.

Doeddwn i ddim wedi chwarae gem MMORPG cyn Mabinogi, felly roedd o'n hwyl i ddysgu sut i rhedeg ac dilyn y map. "Aderynddu" ydw i, ac mae fy avatar yn giwt iawn, efo gwallt du mewn plethau a llygaid collen. Yn anfoddus, o'n i ddim yn gallu tynnu sgrin-shots. ):

O'n i'n ar goll unwaith, ac o'n i mewn lle peryglus ("Warning" dweddodd y gem. "Wild animals are known to inhabit this area.") ond doedd yr anifeiliadau ddim yn fy drygu fi. Weithiau, dw i ddim yn siwr pam, stopiodd fy avatar mewn lleoedd ar hap a tyllu'r aer. Ond dysgais i i hitio'r targedau gwelltyn (ond dim y cadnoid, achos roedd ofn arna i).

Y broblem efo'r gem? Wel, mae gen i ddwy broblem: 1) Sgen i ddim yr amser i chwarae'r gem digon i ddatblygu fy avatar fel dw i eisiau. Sgen i ddim yr amser i cael gwaith, a bod yn honest, dw i ddim yn siwr os dw i eisau brwydro. 2) Roeddwn i'n newynu i fy marwaolaeth (starving to death, dw i eisau dweud) a doeddwn i ddim yn gallu deall sut cael bwyd! Dweddodd y gem "Your legs are getting skinny." Jyst gem ydy o, dw i'n gwybod ond...dw i ddim eisiau cael fy marwolaeth mewn MMORPG!!!

Efallai taswn i'n cael berson arall i chwarae'r gem efo fi (*peswch*asuka*peswch*), mi fasai'r gem mwy o hwyl. Person arall i dweud wrtha i sut ffeindio'r bwyd, efallai... (:

1 Comments:

Blogger asuka...

ti a fi. gêm on.

8:49 PM  

Post a Comment

<< Home