erthygl arall

Mae'r semester yn dechrau ddydd Mawrth. Dw i'n hapus i dychwelyd; mae gen i'r gobaith y bydd y semester yn dda a cynhyrchiol i mi*.

Beth bynnag, mae Daniel a fi wedi ysgrifennu erthygl newydd, rwan am Facebook yn Gymraeg. Bydd Daniel yn ei chyflwyno hi yn Denmark ym mis Hydref (lwcas iawn! Dw i ddim yn gallu mynd.) Dyma'r erthygl, os wyt ti eisiau ei darllen: (Re)Creating Welsh Speaking Communities on Facebook: An Initial Investigation.

(*And that I will finally master that damn construction...)

4 Comments:

Blogger Corndolly...

Hi Zoe, Dw i wedi llwytho i lawr dy erthygl a bydda i ei ddarllen o heno, pan dw i'n dod adre. Dw i'n edrych ymlaen achos fy mod i'n defnyddio Facebook yn y Gymraeg.

6:01 AM  
Blogger asuka...

diolch am rannu, zoe! rwy'n edrych 'mlaen at ei ddarllen e. (er nad wyf fi'n iwsio ffeisbwc mewn unrhyw iaith - mae arna' i ormod o ofn yr elwn i'n hwcd!!)

7:32 PM  
Blogger Zoe...

Asuka: Dw i ddim yn defnyddio Facebook chwaith; mae fy mam yn ei ddefnyddio, ond dw i ddim yn gweld y pwynt.

Corndolly: Ond, wedi dweud hynny i Asuka, mae gen i gyfrif "researcher", felly efallai dw i'n gallu dy ychwanegu di fel "ffrind"? Fy enw Facebook ydy "Zoe Mason" (ar y "Wales Network").

11:10 AM  
Blogger Corndolly...

Diolch Zoe, 'na i chwilio amdanat ti. Dw i'n defnyddio Facebook fel pont rhwng y cenedlaethau. Perthnasau a'i gariadon a ffrindiau sy'n dysgu Cymraeg ydy'r rhan fwyaf o fy ffrindiau. Dw i'n gallu gweld lluniau ohonynt a dysgu am beth maen nhw wedi bod yn gwneud. Heb Facebook, faswn i ddim bod yn gallu rhannu eu bywydau brysur. Ond mae gan Asuka bwynt da - mae hawdd cael dy 'hwcd' ar y peth.

3:20 AM  

Post a Comment

<< Home