teithiau dyfydol

Bydd y flwyddyn nesaf yn amser diddorol i mi. Os mae popeth yn gweithio fel dw i'n cynllunio, mi fyddwn i'n teithio i dri lle wahanol a dychwelyd i gweld y "Greatest Spectacle in Racing".

Ym mis Ionawr: Hawaii! Ysgrifenniais i erthygl efo fy nghynghorwr am Twitter.com, a mi gafodd ei derbyniad i'r Hawaii International Conference on System Sciences, neu "HICSS". Cynhadledd ardderchog ydy hi, yn amlwg, a mi fyddwn i'n hoffi i bod yn Hawaii pan mae'n oer iawn ac yn bwrw eira yn Bloomington!

Mis Mai: Wel, ar hyn o bryd dyma'r mis anodd. Dw i eisiau mynd i'r Eidal efo ffrind i ddathlu ein pen-blwyddi (30-ych a fi!). Ond hefyd, dw i eisiau mynd i'r Indianapolis 500 efo fy ewythr a mae rhaid i mi gorffen fy nghyrsiau ac amddifyn fy "quals". Efallai dw i'n gallu amddifyn fy quals ym mis Mehefin, ond dw i ddim yn siwr achos...

Yr haf: Dw i eisiau mynd i Gaerdydd am y Cwrs Haf. Ac rwan, dw i'n difrif! (: Mae'r cwrs ym mis Gorffennaf ac yn mis Awst, dw i'n credu, felly dw i'n meddwl fy mod i'n gallu gwneud popeth.

Dw i wedi eisiau aros yn Gymru ar ol y cwrs i ysgrifennu fy dissertation, ond bod yn honest dw i ddim yn siwr os fyddwn i'n gallu. Does rhaid i mi ddim aros yn Bloomington ar ol amddifyn fy quals. Ond dw i ddim yn siwr am y sefyllfa 'visa' neu os mi fydd yr arian 'da fi. Meddwlais i am symud i dre newydd yn yr Unol Daleithiau, ond, os dw i ddim yn gallu mynd i Gymru, mae'n well i mi aros yn B'ton, lle dw i'n gwybod y dre. A dweud y gwir, dw i wedi ystyried hwn i gyd pan dw i wedi teimlo'n drist. Dwedodd fy hoff ffrind wrtha i y mae o eisiau symud yn ol i Galifornia ym mis Rhagfyr. Byddai'n well iddo fo, dw i'n gwybod, ond mi fyddwn i'n ei golli tasai fo'n symud i Galifornia. Wel, hanes "complicated" ydy o, ond dw i'n well rwan.

3 Comments:

Blogger asuka...

fisas! drueni bod syt bethau'n bodoli. pwy a ddyfeisiodd nhw? dylai'r llywodraeth fod wrth eu boddau fod ti 'di dewis eu gwlad nhw i aros ynddi wrth wneud dy waith sgrifennu. ond mae gwledydd yn "ffyni" am bethau fel 'na rywsut.
hawaii - waw. rwy am fynd i hawaii 'rioed!

11:51 AM  
Blogger Emma Reese...

Swnio'n gyffroes iawn! Gobeithio eith popeth yn iawn i ti.

3:44 PM  
Blogger Corndolly...

Gobeithio byddi di'n gallu gwneud popeth ar dy restr. Rhaid i ti wneud dy gynlluniau yn ofalus iawn, a phwy â wŷr - efallai bydd popeth yn mynd yn ei le cywir.

3:40 AM  

Post a Comment

<< Home