ffrainc

Wel, dw i'n mynd i Ffrainc yfory am y cynhadledd. Dw i'n typyn o nerfus a dweud y gwir achos dw i ddim yn siarad Ffrengig o gwbl! Ok, dw i'n gallu dweud y rhan 'na yn y gan "Lady Marmalade", ond dw i ddim eisiau dweud hwnna i unrhywun yn Ffrainc!

Hefyd dw i ddim yn siwr os fydda i'n gallu goddef y pwysau o'r taith. Rhaid i mi adael am 7:45 yn y bore, ond dydy fy hediad o Chicago i Baris ddim yn adael hyd oni 5:45 yn y prynhawn! (Rhaid i mi mynd mewn shuttle o B'ton i Indianapolis, ac wedyn rhaid i mi mynd mewn awyren i Chicago tuag un o'r gloch.) Bydd pwyth croes a llyfr 'da fi a mi fydda i'n gobethio am y gorau...

Ond, yn y cynhadledd, mi siarada i am flogio yn Gymraeg. Hefyd, dw i'n mynd i cwrdd a Daniel, o'r diwedd (wedi mwy o misoedd cyfathrebu trwy'r e-mail yn unig).

Os dych chi eisiau gweld fy slides, dyna chi: http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/catac_pres.ppt

Mi fydda i'n dod yn ol dydd Sul nesa'. Wela i chi i gyd nes ymlaen! Hwyl!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home