taith i'r Indianapolis 500

Dw i'n sgrifennu llawer am IndyCar ar hyn o bryd dw i'n gwybod, ond dydy'r blog 'ma ddim yn dyfod "Blog yr IndyCar" yn unig, dw i'n addo! Ond, mi es i i'r Indianapolis 500 ym mis Mai efo fy nheulu, felly dw i eisiau eich dangos chi rhai o luniau.

Yn gytaf, fi, fy mam, a fy llystad. Doedd fy mam a fy llystad ddim yn ffaniau IndyCar cyn y ras, ond fy llystad "got into it":



Slogan yr Indy 500 ydy "The Greatest Spectacle in Racing," a o'n i'n gallu ddeall pam ar ol weld y golygfa. O'n i'n eistedd y tu ol y "pits". Dyma'r golygfa cyn y ras:



Sef, eisteddais i tu ol pit Milka Duno, gyrrwr o Venezuela. Nawr te, rhaid i chi gwybod: Dw i'n casau Milka! Oce, mae "casau" yn gair rhy gryf, ond dw i ddim yn meddwl ei bod hi'n gyrrwr da neu haeddiannol. Ond mi wnaeth hi ymgymhwyso, felly, beth wyt ti'n gallu gwneud?

Eniwe, a dweud y gwir, dw i ddim yn ystyried bod Indycar yn chwarae americanaidd. Mae NASCAR yn americanaidd, wrth gwrs (typyn o 'red neck' dw i'n meddwl ond...), ond dw i ddim yn meddwl bod Indy yn americanaidd achos mae'r gyrryr yn dod o dros y byd. Ar hyn o bryd, y gyrryr "Top 5" yn dod o Zealand Newydd, Awstralia, Brasil, a Lloegr; y gyrrwr Americanwr cyntaf ar y rhestr ydy Danica Patrick yn y chweched lle. Ond mae'r Indy 500 yn digwydd dros y penwythnos "Memorial Day", gwyl i cofio hen law y rhyfeloedd. Felly roedd llawer o milwyr yno, ac cyn y ras, gorymdeithon nhw:



Yn ystod y ras, roedd fy mam a fi yn ceisio tynnu lluniau o'r ceir. Ei luniau hi ydy'n aneglurder, ond o'n i'n gallu tynnu lluniau da o'r ceir Danica Patrick a Marco Andretti:





Roedd llawer o damweiniau eleni, efallai achos roedd llawer o "rookies" yn y ras. Felly roedd y ras yn bron pump awr, dw i'n meddwl. Y damwain drista oedd pan chwalodd Tony Kanaan (y gyrrwr a oeddwn i eisiau ei enill) ar ol tywys y ras. ): O'n i'n mor drist, ac ar ol hyn, doeddwn i ddim yn gwybod pwy llonni am (er, who to cheer for). Dyma'r damwain (yn Almaeneg, dw i'n meddwl):



A dyma'r adladd:



::sniff::

Eniwe, i wneud cofnod rhy hir yn fyrach, ennillod Scott Dixon y ras, a cafodd Vitor Meira yr ail lle. Mi ges i amser dda, a mi fydda i'n mynd yn ol y flwydden nesa efo fy ewythr. Ie, a rwan dw i'n addo fy mod i ddim yn postio am IndyCar am fis...ti'n gwybod, oni mae Danica yn ennill eto neu rhywbeth fel hwn... :P

7 Comments:

Blogger Chris Cope...

Does neb arall yn blogio am Indy (beth mae'r gwahaniaeth rhwng Indy ac F1?), a blog di yw fe. Felly rwyt ti'n gallu ysgrifennu am beth bynnag dod ti eisiau.

11:10 AM  
Blogger asuka...

ro'ch chi'n eistedd ar bwys milka... gaethoch chi weld unrhywbeth diddorol rhyngddi hi a danica?!

2:13 PM  
Blogger Zoe...

Chris: Diolch. Mae'r ceir IndyCar yn mwy a cyflymach na'r ceir F1. Hefyd mae'r ceir IndyCar yn rasio ar traciau hirgrwn ac a'r traciau ffordd tra fod y ceir F1 yn rasio ar traciau ffordd yn unig. Hefyd, mae rheolau a manylion car wahanol, ond dw i ddim yn ei deall hi i gyd a dweud y gwir.

Asuka: LOL! Nage, doedd dim byd diddorol rhwng Danica a Milka yn yr Indianapolis 500. Y ras yn Ohio y penwythnos diwetha' oedd y tro cynta am rywbeth rhyngddan nhw. Ond chwalodd car Ryan Briscoe i mewn i'r car Danica yn yr Indy, a ymdeithodd Danica i lawr pit lane i "siarad" wrtho fo. Ond ei hatalodd ei pit crew hi cyn agosaodd hi iddo fo (before she got near him).

5:37 PM  
Blogger Gwybedyn...

Zoe, fyddet ti'n fodlon rhannu'r gyfrinach o sut i gael y dyddiadau i ymddangos yn Gymraeg ar y blog? Hefyd, y darn sy'n dweud "x sylw / x o sylwadau"?

Diolch yn fawr!

5:03 PM  
Blogger Zoe...

Mae Nic Dafis wedi ysgrifennu post gwych ar Maes-e sy'n egluro sut newid y patrymlun blog i Gymraeg, yma: http://maes-e.com/viewtopic.php?t=8093&highlight=blogger

Ti'n gallu newid y dyddiadua efo rhaglen gan Aled, o'r enw "Dyddiadau Cymraeg"...yma: http://sbwriel.blogspot.com/2004/09/sgript-jafa-y-dyddiadau-wedii.html

(:

9:16 AM  
Blogger Gwybedyn...

Diolch yn fawr iawn iti!

9:17 AM  
Blogger Corndolly...

Dw i'n hoffi dy luniau, Zoe. Roedd y ras yn ymddangos mor gyffrous. Don i ddim yn ei ddisgwyl o.

7:19 PM  

Post a Comment

<< Home