gwyyyych


Hanes--eto! Ddoe, ennillodd Ana Beatriz y ras "Indy Lights" yn Nashville, Tennessee. Hi ydy'r wraig gyntaf i ennill ras Indy Lights; Indy Lights ydy'r cynghrair datblygiadol IndyCar. Ac annhebyg pan ennillodd Danica ym mis Ebrill, enillodd Bia efo gyriad arddechog. Dim strategaeth tanwydd. Jyst, "Eat my dust, boys."

Roeddwn i'n gweiddi, wrth gwrs. A dweud y gwir, weithiau doeddwn i ddim yn gallu gwilio'r ras, achos roedd ofn arna i y basai hi'n chwalu. Dw i'n teimlo fy mod i'n jinx i fy hoff gyrwyr weithiau. Ennillodd Danica pan mi syrthiais i i gysgu yng nghanol y ras, a ennillodd Tony Kanaan panwelais i mo'r ras achos oedd fy hediad o Ffrainc yn hwyr.

Y ras IndyCar? Wel, well i mi beidio siarad am hwnna, heblaw dweud hwn: "Haeddoch chi ddim ennill, Dixie. A chi chwaith, Weldie..." :P Weithiau, dw i'n casau'r glaw. ):

4 Comments:

Blogger asuka...

sa' i'n gwybod dim byd am indycar - ond beth yw'r gitâr 'na mae hi'n ei dala yn y llun? nid dyna'r cwpan a enillod hi yn y ras, nage??

11:36 AM  
Blogger Zoe...

Ie, mae hwnna'r cwpan a ennillodd Bia. Mae'n rhywbeth arbennig am y ras 'ma'n unig. Mae'r ras yn digwydd yn Nashville, TN, sy'n enwog am cerddoriaeth country wrth gwrs, felly mae enillwyr y ddwy rasys yn derbyn gitar hand-painted.

12:04 PM  
Blogger asuka...

cw^l iawn!

4:30 PM  
Blogger Corndolly...

Yn bendant, Hoffwn i ennill gitâr fel hwn heb yrru'n gyflym ! Symbol da iawn o Nashville ydy hwnna.

3:39 AM  

Post a Comment

<< Home