ennillodd danica!



Nos Sadwrn oedd amser cyffrous i ffanau IndyCar. Ennillodd Danica Patrick y ras Indy Japan 300! Hi ydy'r ddynes gyntaf i ennill ras bennaf "open wheel". Mae rhai o bobl eisiau dweud y enillodd hi y ras achos strategaeth tanwydd yn unig, ond dydy hi ddim yn gywir. Gwnaeth Danica pas gwych o amgylch Helio Castroneves yn y lap 198, ac wedyn trechodd hi o braidd yn erbyn 6 eliad. Mae hwnna yn gyrru da, dim strategaeth tanwydd. (A beth bynnag, cafodd Helio a Danica yr un strategaeth tanwydd.)

A dweud y gwir, welais i mo'r ras a enillodd hi yn fyw achos syrthiais i i gysgu yng nghanol y ras. Mi ddarllenais i amdani hi y bore nesaf trwy'r wefan Indycar.com. Roeddwn i'n gweiddi mewn cynnwrf ac anghoel (achos doeddwn i wedi ddim yn gwylio'r ras, dim achos roedd Danica wedi ei ennill!). Wedyn, mi sylwedolais i bod fy cymydogion ddim yn gwerthfawrogi glywed gwaeddau am 5:45 yn y bore, felly mi stopiais i. Ond roeddwn i'n mor hapus dryw'r dydd.

Dyma clip o fuddugoliaeth Danica. Mae'n Japaneg (helo, Emma!:) ond mae'n ciwt i clywed y cynnwrf yn llais y cyhoeddwr:

http://www.indy500.com/video/index.php?watch=960

2 Comments:

Blogger asuka...

hei, gallet ti fod 'di bod ar radio cymru fel eu gohebydd nhw o fyd indi!

3:48 AM  
Blogger Emma Reese...

Dydy'r ddolen ddim yn gweithio...

10:36 AM  

Post a Comment

<< Home