erthygl newydd (a thwp)

Dw i newydd gorffen erthygl arall am y blogwyr Cyrmaeg, ond bod yn honest, dw i'n teimlo ei bod hi'n ddarn mwyaf o "crap" sy'n sgrifennu mewn amser hir. Roedd y syniad yn ddiddorol, ond dw i'n meddwl fy mod i'n gorfodi gormod y cenedlaetholdeb ac y gwrthsafiad. Sut bynnag, rhodd yr erthygl i mi syniad am fy astudiaeth nesa, ac dw i'n gobeithio ei fydd hi ddim yn crap. Bydd yr astudiaeth yn ymglymu cynnwys blog gwirioneddol. Dw i'n gyffroes am hyn, ond mae ofn arna i hefyd. Dw i wedi cael cwrs Cymraeg y tymor 'ma, ac dw i'n deall mwy o'r flogiau, ond wedyn dw i'n darllen blog efo llawer o iath sathredig ac dw i'n deall dim byd! Ach y fi! Ond mae'n hwyl, yn wir. (:

Beth bynnag, dyma'r erthygl crap. Dw i ddim yn ategi fy ddadansoddiad yn fawr. Eto, dw i'n teimlo fy mod i'n gorfodi y cenedlaetholdeb heb digon o data, ond hei, "Performing Nationalism" oedd enw'r cwrs (cwrs anthropoleg oedd o), felly dyna ti... Ond dw i wedi addo gwneud fy erthylau ar gael i bawb; mae'n rhan o fy agenda bod "ymchwiliwr atebol". Yn ffyddiog, erbyn diwedd y flwyddyn, mi fydda i'n cael erthygl newydd a gwell i arddangos.

5 Comments:

Blogger Rhys Wynne...

Papur difyr. Byddwn yn dweud nad gweithred genedlaetholgar (neu o leiaf yn fwriadol) yw blogio'n Gymraeg, dim ond rhywbeth naturiol.

Mae'n wir fy mod i fel Hen Rech Flin yn blogio'n Saesneg er mwyn denu cynulleidfa gwahnol (noder: nid mwy), ond byddai gorfod darllen ac yna gadael sylw yn Saesneg ar flog rhwyun dwi'n gwbod eu bod yn siarad, yn rhywbeth chwithig dros ben.

O ran fy ymateb i am Blogger, mae yn dod drosoddd yn defeatist, (trait personol a ni fel cenedl efallai), ond beth oeddwn yn feddwl oedd, waeth peidio treulio gormod o amser yn poeni am Google/Blogger pan gelli'r defnyddio Nireblog neu Wordpress.

Er tegwch i Google, mae nhw yn cynnig lleoleiddio i'r Gymraeg (cyn belled ein bod ni'n ei gyfieithu iddynt), ond mae'n cymeryd yn hir ofnadwy iddynt wneud newidiadau. Mae cyfieithiad Cymraeg o gmail wedi ei gwbwlhau ers achau gan wirfoddolwyr, ond does dim modd cael ateb gan Google pryd caiff ei ddefnyddio - mae'nn gwestiwn da gan Chirs 'sut ddiwal bod fersiwn Gwyddelig?'.

Ma'e brosoes lleoleiddio/cyfieithu yn un difyr. Fel ti'n gyffwrdd yn dy bapur, mae gwefannau/gwasanaethau TG o UDA yn tueddu bod yn Saesneg a Saesneg yn unig. Dwi'n sylwi bod rhai tebyg o Ewrop yn tueddu bod yn ddwyieithog (h.y. yn iaith gwreiddiol y wlad y daw ohon + Saesneg) neu'n amlieithog.

Dwi'n synnu (ac eto ddim yn synny) pa mor hir mae wedi cymeryd Facebook i ddarparu fersiynnau mewn ieithoedd eraill.

11:19 AM  
Blogger Zoe...

Dw i'n cytuno rwan bod blogio yn Gymraeg yn rhywbeth naturiol ac nad gweithred genedlaetholgar yn fwriadol. Roeddwn i'n falch ffeindio y tystiolaeth 'ma'n y cofnodion.

Dw i'n cydnabod fy mod i'n nesu at fy ymchwil fel tipyn o "outsider" achos dw i'n gofyn pam mae pobl yn blogio yn Gymraeg (er dw i'n meddwl ei bod hi'n gwych ac dw i'n hapus ei gweld hi). Ie, Americanes ydw i wrth gwrs, felly "outsider" ydw i...hehe. Ond dyna rheswm pam dw i'n astudio "Welsh language bloggers"...

Mi fydda i'n sgrifennu mwy nes ymlaen. Diolch am y gwybodaeth ddiddorol. Mae rhaid i mi ei chyfieithu hi yn hollol cyn dw i'n gallu ateb.

12:31 PM  
Blogger asuka...

rown i'n disgwyl blogiad gen ti ar danica patrick... (^_^)

3:45 PM  
Blogger Zoe...

Hehe, Asuka...mi fydda hi'n yma yn ychydig o ddyddiau... (:

9:38 PM  
Blogger Digitalgran...

Dwi innau fel rhys wynne wedi blogio yn Gymraeg am na dyna oedd yn dwad yn naturiol. Fy mwriad ar y cychwyn oedd rhannu fy niddordebau a merched Cymru yn union fel y mae fy mlog Saesneg http://digitalgran.blogspot.com yn rhannu a'r Saeson ac hefyd ieithoedd eraill drwy ddefnyddio Babel Fish. Mae'n resyn nad ydi hwn yn cyfieithu i'r Gymraeg. Mae 110,000 wedi ymweld a'r flog Saesneg a 1500 ar yr un Gymraeg. 16 heddiw yn digwydd bod!

6:01 PM  

Post a Comment

<< Home