diweddaraf

Helo bawb! Amser hir heb ysgrifennu, mi wn i (sori). Dw i wedi bod yn gweithio'n galed efo fy ngwaith ysgol, ond mae'r tymor wedi diweddu rwan, diolch byth!

Dewch i mi weld...beth sy wedi digwydd yn fy mywyd bach? Wel, dw i'n mynd i Gaerdydd am ddwy fis i ddysgu Cymraeg! Mi wna i adael 27ed mis Mehefin a bod yno nes 22 mis Awst. Dw i eisiau cyfarfod efo pobl sy'n byw yng Nghaerdydd (neu yn agos at Caerdydd) efo sgwrsiau yn Gymraeg. Ond rhaid i mi cyfadde...mae fy ynganiad yn ofnadwy, felly os gwelwch chi'n dda, byddwch yn amyneddgar! (Ond mae'n ddigrif iawn, dw i'n gwybod!)

Hefyd, mi ges i 4.0 (marciau perffaith) y ddau tymor gorffenol. Wn i ddim sut yn un dosbarth (o'r enw "West European Intellectual History", neu, fel dw i'n ei galw, "A bunch of old white guys complaining about everything"), ond dw i ddim yn cwyno!

Dros y gwanwyn, mi ges i dosbarth lle darllenais i llyfrau a storiau Gymraeg. Mi ddarlenais i "Traed mewn Cyffion" gan Kate Roberts, "Enoc Huws" (fersiwn 'Cam at y Cewri') gan Daniel Owen, a storiau byr gwahanol. Roedd y dosbarth yn hwyl, ond anodd weithiau!

Rwan, dw i wedi gorffen efo dosbarthiau. Dw i wedi ysgrifennu fy "qualifying exam" a mi fydda i amddifyn hi ar y 10ed mis Mehefin. Wedyn, dw i'n gallu cychwyn ar fy dissertation. Mae'r qualifying paper yn typyn o hir, ond os dych chi eisiau ei darllen, dw i'n gallu ei anfon atoch chi. Y teitl ydy "Online Communities and Minority Language Promotion". Mae'n trafod defnydd y we (ac "technolegau gwybodaeth a cyfathrebiad" yn gyffredinol) i hybu ieithoedd fel Cymraeg, Catalaneg, Maori, ayyb.

Wel, dyna digon ar hyn o bryd. Mi fydda i'n ymweld a blogiau eraill yn fuan a gadael sylwadau. Hwyl fawr!

5 Comments:

Blogger asuka...

so, ti ar fin dod yn "zoë m.phil." neu "m.a.", a byddi ti wedyn yn dechrau'r daith i fynd yn "zoë ph.d."? llongyfarchs!
(^_^)∠☆

ac mor wych gen i glywed fod ti'n mynd i gaerdydd AM DDAU O FISOEDD! ardderchog.
paid di anghofio cymdeithasu drwy'r gymraeg cymaint â phosib - gyda'r sawl o blith y dysgwyr sydd eisiau siarad cymraeg (a fydd pob un ohonyn nhw ddim!), gyda'r tiwtoriaid os byddan nhw'n fodlon, ac unrywun arall. ti'n dysgu llawn cymaint tu fas i sut ddosbarthiadau ag tu mewn iddyn nhw, rwy'n credu.
am gyffrous!

2:18 PM  
Blogger Rhys Wynne...

Fe wela i di yng Nghaerydd gobeithio.

Efallai bydda i'n dysgu ar y cwrs haf hefyd yn y Brifysgol, ond dim ond am ddiwrnod, a gyda lefle dysgwyr newydd mwy na thebyg.

4:39 AM  
Blogger Zoe...

Ie, Rhys. Hoffwn i cyfarfod di yr haf ma!

Byddi di'n dysgu ar y cwrs dim ond am ddirwnod? "Special guest" wyt ti? (:

3:00 PM  
Blogger Emma Reese...

Da iawn ti am y marciau perffaith! Gwych fod ti'n cael treulio dau fis yng Nghymru. Oes 'na unrhyw siawns iti fynd i'r Eisteddfod yn y Bala? Os felly gobeithio ca i dy weld di yno. Fel arall, pob hwyl efo'r cwrs Cymraeg.

4:18 PM  
Blogger Zoe...

Emma: Liciwn i fynd i'r Eisteddfod, ond dw i ddim yn siwr os galla i ar hyn o bryd.

6:57 AM  

Post a Comment

<< Home