erthygl newydd am flogio yn y Gymraeg

Dw i wedi ysgrifennu erthygl newydd am flogio yn y Gymraeg a rôl Maes-e yn sut cafodd blogio ei gynyddol. Hoffwn i rhai o adborth, os gwelwch chi'n dda, yn arbennig o bobl fel Nic a Rhys (ac unrhywun arall sy eisiau ei ddarllen). Dyma'r linc: Online Communities as a Tool for Minority Language Promotion: Socially (Re)Constructing Y Rhithfro

Drafft cyntaf ydy o. Os gwelwch yn dda, dwedwch wrtha fi os dw i wedi colli rhwybeth neu os dw i wedi camddeall rhwybeth (hwn ydy'n bosib iawn!). Dych chi'n gallu sgipio'r Literature Review os mae'r erthygl yn rhy hir i chi; yr adran "Results" oedd y rhan sy'n cael fy diddordeb mawr.

O ie, a mi fydda i'n newid yr enwau yn y drafft terfynol. A dw i eisiau cyweld bawb, ond mae'n rhy anodd i gael caniatad o Institutional Review Board fy mhrifysgol ar hyn o bryd. Hefyd, dw i eisiau gallu i gyweld chi i gyd yn Gymraeg, ond mae fy Gymraeg yn crap rwan, fel dych chi'n gallu gweld! (:

Diolch yn fawr iawn. Ac yn gobeithiol, dw i'n gallu darllen ag ateb i'ch blogiau chi i gyd rwan. Yr erthygl 'ma oedd prosiect diwetha y semester i mi (hwre!).

6 Comments:

Blogger Nic...

Heia Zoe. Dim ond nawr dw i'n sylwi ar hyn yn bloglines. Dim amser 'da fi nawr, ond trial i ei darllen nes ymlaen heddi a rhoi ymateb i ti.

Diolch,

Nic

10:48 AM  
Blogger Nic...

Wedi cael cip sydyn, dyfyr iawn. Does dim byd ynddi fyddwn i ddim yn cytuno â fe, ond ti'n neud i fi swnio yn lot rhy bwysig. Dw i'n teimlo bod Aran yn gor-ddweud tipyn am fy nylanwad personol i, a bod dylanwad maes-e ei hunan sydd tu ôl i'r newiadau gwelon ni yn yr adeg 2004-2005. 'Swn i ddim wedi agor maes-e, byddai rhywun arall wedi neud.

Cwpl o bethau bach:

"Yr Rhithfro" - dylai fod "Y Rhithfro"

"79% were male and 21% were female (the remaining 10%..)" - ti moyn sieco dy syms fan 'na.

"We have discussed Welsh langauge blogs here on the Maes many times, but not in this *society*" - "seiat" yw enw'r adrannau ar maes-e, felly "seiat gigs" ac yn y blaen. "Forum" neu "Section" byddwn i'n dweud, nid "scoiety".

"After Bloglines only 3 people read my blog" - dylai fod "According to BL.."

"Macintosh" - dylai fod "Mihangel Macintosh"

"you have to be more of a *creep*." - i fi, "slebog" = "slut", h.y. link slut.

Os ti moyn trafod mwy, cysyllta â fi yn uniongyrchol - nicdafis@gmail.com - dw i ddim yn sieco Bloglines bob dydd. Wedi hanner ymddeol o'r blogio ;-)

Reit, *rhaid* i mi fynd.

11:21 AM  
Blogger Gwybedyn...

diolch, Zoe, am y cyfle i ddarllen hwn. Rhai sylwadau brysiog, felly, yn ôl dy gais.

Un peth nad wy'n siwr amdano yn yr erthygl yw a yw'n cyfleu llwyddiant y fenter i droi'r Gymraeg yn iaith fyw ar-lein. Yr argraff ges i wrth ddarllen oedd taw Nic Dafis a rhai o'i ffrindie oedd cyfanrwydd y 'gymuned' flogio. Rhaid bod mwy na hynny i'r datblygiadau hyn - os nac oes, on'd yw'n paentio darlun o ddu? (mae Nic ei hun wedi awgrymu fod yr erthygl yn gor-bwysleisio ei gyfraniad). Neu... a fethwyd hyd yma - ai dyna dy wir-neges?

Rwyt ti'n awgrymu taw ceisio ennyn diddordeb gan ddarllenwyr di-Gymraeg mae Nic Dafis wrth iddo annog pobl i gyfeirio at flogiau Saesneg. Mae hynny'n bosibl, ond rhaid inni gofio hefyd bod nifer fawr iawn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â chyfryngau Saesneg (neu ieithoedd eraill o bosibl) llawer mwy nag ydyn nhw â rhai Cymraeg. Rhan o'r frwydr i ennill cydraddoldeb i'r Gymraeg yw i dorri ffiniau'r geto sy'n awgrymu na ddylid trafod yr iaith a'i diwylliant ond yn yr iaith ei hun. Mae'n bosibl, felly, fod oblygiadau ehangach i awgrym Nic Dafis yn fan hyn (o na byddai BBC Wales yn trafod diwylliant Cymraeg!).

Yn bersonol, rwy'n credu dy fod di'n or-optimistaidd i gymryd ffigurau'r Cyfrifiad fel arwydd bod trai'r Gymraeg wedi dod i ben (cofiwn nad yw ystadegau'n well na chelwyddau weithiau, ac edrychwn tuag at Gyfrifiad Iwerddon a'r ffigurau sy'n "siarad Gwyddeleg" i gael gweld yr angen am ddadansoddiad manwl o _ba fath o Gymraeg_ sy'n cael ei siarad (a phryd, a ble) gan y miloedd yma.

rhai manion pitw wedyn:

i)fyddai'n bosibl cyflwyno IPA i esbonio ynganiad "rhithfro"? (yn ogystal â'r ('something like...' os oes angen hyn)? Hoffwn innau'n bersonol weld llawer mwy o ddefnydd o IPA ymhlith y rheiny sy'n trafod ynganiad, ond rhaid taw erthyglau academaidd, ieithyddol eu naws yw'r llefydd i ddechrau.
ii) "bratiaith" yn lle "bratiath"
iii) "the tide is turning" yn lle "the flow is turning"?
iv) cawn weld... ^^

9:16 PM  
Blogger Zoe...

Diolch yn fawr iawn Nic a Szczeb. Nic, mi fydda i anfon e-bost atat ti yn fuan. Szczeb: dewch i fi weld os dw i'n gallu rhoi atebion i chi yn Gymraeg! (Mi fydda i'n ysgrifennu fy meddyliau yn Saesneg wedyn rhag ofn fy Gymraeg yn rhy ofnadwy!)

>>Un peth nad wy'n siwr amdano yn yr erthygl yw a yw'n cyfleu llwyddiant y fenter i droi'r Gymraeg yn iaith fyw ar-lein.<<

Wel, mae mwy na un ffordd i droi'r Gymraeg yn iath fyw ar-lein. BBC Cymru'r Byd ydy un; ymgrych dotCYM ydy arall. Dw i'n edrych am le arall sy'n cael rol pwysig: defnyddiau cymdeithasol, yn yr achos 'ma, blogio yn y Gymraeg. Ond ie, tasai'r blogiau yr unig ffordd i hybu Gymraeg ar y we, basai hi llun o ddu yn wir!

Yn yr erthygl 'ma, dw i'n ymchwilio dechrau rhwybeth y adnabuom Daniel a fi fel cynyddol blogio yn y Gymraeg. Un ennyd yn 2004 y ymddangos i ddechrau efo Nic a'i ffrindiau trwy'r Maes-e. Nad hwn ydy'r stori cyfan, dwi'n credu. Ddechreues i ddim ar blogio yn y Gymraeg achos dylanwad Nic. Roeddwn i (oce, dw i'n) dysgwres ac roeddwn i'n blogio yn Saesneg, felly roeddwn i'n meddwl bod blogio yn y Gymraeg i ymarfer. Felly ie, dw i'n cytuno bod stori mawr ydy fan hyn. (ond rhaid i mi ysgrifennu dissertation o hyd ;) Ti'n jyst gallu ysgrifennu pethau bach yn un erthygl!

Efo'r erthygl yma, roeddwn i'n ceisio i weld os gynyddodd blogio yn y Gymraeg efo'r dylanwad Nic a Maes-e achos dweddodd Aran ac yr erthygl Wicipedia Cymraeg hwn. Dw i'n meddwl bod y blogiadwyr 'ma yn dylanwadu blogiadwyr eraill, a hefyd cafodd rhai o flogiadwyr y syniad ar eu hun. Yn y dyfodol, dw i eisiau ymchwiliad os y bobl 'ma i gyd yn meddwl bod 'na cymuned Gymraeg ar-lein. Effallai mae'r data yma yn gor-amcangyfrif dylanwad Nic, ond dyma'r rheswm roeddwn i'n eisau gwybod os roeddwn i'n wedi colli rhwybeth. Effallai bodoli data eraill sy'n ymddangos bobl eraill yn chwarae rol, ond ar hyn o bryd mae neb wedi ei ddyfod a fi, felly efallai dylai Nic yn derbyn ei giwdos! (:

Ond yn graddfa yn eangach, dw i'n rhyfeddu pam na blogio yn y Gymraeg yn fwy o boblogaidd. Mae Daniel a fi wedi gwneud ymchwil i ffeindio blogiau, ond dyn ni wedi ddim yn ffeindio mwy na 200, a llawer o'r rhain yn wedi marw (Hefyd, mae Rhys Wynne wedi gwneud rai o'r ymchwil 'ma; efallai bod o'n gallu dweud mwy). Mae'n diddordeb i fi i gwybod pam. Ydy'r esgusodion y rhoddodd pobl yn Maes-e yn cyffredin iawn? Nag ydy CMC yn boblogaidd iawn efo'r bobl Gymraeg a Chymreig (dw i wedi glywed yr ymresymiad 'ma)? Neu ydy pobl yn dethol platfformiad eraill ac os ydyn, p'un a pam? Mae 'na pobl yn bryderu efo codiad Cymraeg trwy'r technoleg sy'n ystyried y cyfriaduron i bod yn pwysig iawn iawn iawn (fel dyfynnais i yn fy erthygl), ond dydy'r pobl 'ma ddim yn ymchwilio sut mae pobl yn defnyddio'r technoleg (os maen nwh'n ei ddefnyddio yn wir), am beth amcanion, ayyb. Mae o'n pwysig i ganfod, dw i'n credu, os mae pobl eisiau gwario arian i ddatblygu'r rhaglenni 'ma neu treulio'r amser i adeiladu nhw, ayyb.

Www, sylw hir, sori. Dw i'n hoffi son am fy waith ymchwil mae'n amlwg! Ychydig o bethau:

>>Yn bersonol, rwy'n credu dy fod di'n or-optimistaidd i gymryd ffigurau'r Cyfrifiad fel arwydd bod trai'r Gymraeg wedi dod i ben<<

Ie, dw i'n cytuno efo ti. Roeddwn i'n adrodd beth dweddodd ysgolorion eraill, ond mi fydda i'n ychwanegu brawddeg i "downplay" yr optimistiaeth.

>>i)fyddai'n bosibl cyflwyno IPA i esbonio ynganiad "rhithfro"? (yn ogystal â'r ('something like...' os oes angen hyn)?<<

Nag ieithydd ydw i (er dau o aelodau fy pwyllgor ydy ieithyddion), felly dw i ddim yn gwybod sut ysgrifennu IPA. Dw i'n gallu eu gofyn nhw.

Diolch eto am y sylwadau!

----------------------

Well, there are more ways people are trying to turn Welsh into a living online language than just blogging. BBC's Cymru'r Byd, the dotCYM campaign, Welsh Language Board iniatives, etc. I am looking at another area that plays a role: social uses, in this case blogging in Welsh. So yes, if it were only Welsh langauge bloggers who were working to promote Welsh online, it would be a bleak picuture indeed!

In this article, I'm looking at the beginning of what Daniel and I identified as the take off of Welsh language blogging...1 moment in 2004 that yes, seemed primarily to start w/ Nic and his friends via Maes-e...I don't believe this is the whole story; I did not begin blogging in Welsh b/c of Nic; I was a learner who used blogs in English and thought that blogging in Welsh would help me practice...so yes, I agree there is a much larger story here, but you can only write so much in one article ;) Thank goodness for the dissertation!

With this article I was trying to get at if blogging in Welsh grew w/ Maes-e/Nic b/c this is what Aran and the Wici Cymraeg entry claimed. My hunch is that these bloggers then influenced some other bloggers, and some, like me, got the idea on their own but then found the other WLBs and (maybe) joined the community (the extent to which they agree with this remains to be seen)...Perhaps the data I've chosen to look at has overestimated Nic's influence, but this is why I asked if I had missed something. Maybe there are other threads or other evidence that shows others played a role (at this point in time; no doubt they have in other times)...so far no one has brought anything else to my attention, so Nic should take his ciwdos! (:

But on a larger scale, I do wonder why WL blogging has not taken off. Daniel and I have done extensive research trying to locate WLBs, and we've never found more than about 200, with many of them dead (Rhys has done this too, maybe he can give his insights). It's interesting to me to know why. Are the excuses given by ppl on Maes-e common with Welsh people overall? Is CMC just not that popular with the Welsh (I've heard this argument too)? Or do they choose other platforms and if so, which ones and why? Ppl concerned with Welsh language promotion keep pointing to computers/Internet as important for the language (like I cited in the paper: bilingual govt websites, software localization campaigns, dotCYM campaign), but they don't seem to be looking at if ppl really use these things, how, to what extent and for what purposes, etc. This is important to ascertain if people want to keep putting money into these programs, or spending time designing them, etc.

Wow, long comment, sorry. I like to talk about my research, apparently! Just a few more things:

>>Yn bersonol, rwy'n credu dy fod di'n or-optimistaidd i gymryd ffigurau'r Cyfrifiad fel arwydd bod trai'r Gymraeg wedi dod i ben<<

Yes, I agree with you. I was just reporting what other scholars said, but I will add a sentence to downplay the optimism.

>>i)fyddai'n bosibl cyflwyno IPA i esbonio ynganiad "rhithfro"? (yn ogystal â'r ('something like...' os oes angen hyn)?<<

I'm not a linguist (although 2 of my committee members are), so I don't know how to write IPA. But I can ask them.

Thanks very much for the comments!

2:01 PM  
Blogger Gwybedyn...

diolch am yr ymateb, Zoe. Doedd dim angen iti roi'r Saesneg ar y blog, chwaith - mae dy Gymraeg di'n ddigon da i sefyll ar ei phen ei hun!

2:29 PM  
Blogger asuka...

hei zoê, dylet ti sgrifennu blogiad ar perthyn. wi'n rhy hen o lawer i ddeall sut bethau (alla' i'm deall yr iaith hyd yn oed) a licen i i ti egluro'u harwyddocâd ifi, plîs. ^_^

9:43 AM  

Post a Comment

<< Home