pen-blwydd da

Roedd dydd Gwener, 22ain o Chwefror, fy mhen-blwydd. Mi ddathalais i trwy'r dydd. Yn y bore, mi siaradais i wrth fy nheulu ar y ffon, wedyn mi ges i anrheg o fy mam. Mi anfonodd hi Legos i mi, ac adeiledais i dy a cheffyl efo nhw. Yn y prynhawn, daeth fy hoff ffrind i fy nhy a siaradon ni. Mi brynodd o deisen moron i mi. Wedyn, mi gyrrodd o fi i'r ty ein cynghorwr ac gadawodd fy hoff ffrind. Mi ges i gyfarfod efo grwp ymchwil. Yn ol y cyfarfod, mi ddychwelodd fy hoff frind efo ffrindiau eraill am barti! Roeddwn i'n synnu. Bywton ni pitsa a'r deisen moron. Yn ol y barti, gyrrodd fy hoff ffrind fi yn ol fy nhy. Roedd y ffyrdd yn rhewllyd, ond mi gyrhaeddon ni'n ddiogel. Hwn oedd y tro cyntaf mewn blyneddoedd i mi ddathlu fy mhen-blwydd.

7 Comments:

Blogger Nic...

Pen-blwydd hapus (hwyr) i ti. Ti'n rhannu pen-blwydd gyda fy nain, sy'n 89 eleni.

4:06 PM  
Blogger asuka...

penblwydd hapus!
hei, fyddi di'n blogio o'r cwrs preswyl ti'n mynd i wneud dros yr haf? byddai hynny'n ddiddorol dros ben.

6:37 AM  
Blogger Zoe...

Diolch Nic ac Asuka.

Yn anffodus, dw i ddim yn gallu mynd i Gaerdydd am y cwrs pellach rwan. ): Siaradais i wrth pobl yma, a dw i ddim yn gallu cael credyd cwrs. Rhaid i mi cael credyd yr haf 'ma (dw i ddim yn gallu egluro pam yn Gymraeg rwan; mi fydda i sgrefennu cofnod arall nes ymlaen). Felly mae rhaid i mi aros yn Indiana. ):

Ond, dw i'n gallu mynd yr haf nesa' (2009) ac dw i gallu cael ysgoloriaeth wedyn efallai i dalu amdani hi. Pan dw i'n mynd, mi fydda i'n cael blog, wrth gwrs!

Mi fydda i'n sgrefennu am hyn nes ymlaen hefyd, ond mi fydda i mynd i Frainc yr haf 'ma am cynhadledd, lle mi fydda i siarad am blogio yn Gymraeg! Efallai dw i'n gallu dod i Cymru am ychydig o ddyddiau, ond dw i ddim yn siwr ar hyn o bryd...

8:42 AM  
Blogger asuka...

ar yr un llaw, rwy'n grac er dy fwyn di na chei di wneud y cwrs ro't ti'n edrych 'mlaen ato.
ar y llaw arall,... cael treulio amser yn ffrainc dros yr haf... ysgoloriaeth bosib yn y dyfodol... smo pethau'n swnio cynddrwg â hynny!
byddai diddordeb enfawr 'da fi mewn clywed beth wyt ti'n astudio a sut rwyt ti 'di llwyddo i ddysgu cymraeg yn bloomington hyd yn hyn (rwyf fi a fy ffrindiau'n fyfyrwyr yn harvard sydd wrthi'n treio gwella'n cymraeg ni ar y rhyngrwyd hefyd!).
iawn. gwna' i ddarllen dy hen bostiau gyntaf - mae'n debyg bydd lot o dy stori di i'w ffeindio ynddyn nhw.

8:42 AM  
Blogger asuka...

[mae asuka yn dychwelyd ar ôl darllen hen flogiadau zoe] ... so ffordd rwyt ti 'di bod yn dysgu cymraeg?

10:02 AM  
Blogger Benjiman...

Pen blwydd hapus! Mae hi'n dda roeddet ti'n 'da eich ffrind.

12:15 PM  
Blogger Zoe...

Diolch, Benjiman!

3:17 PM  

Post a Comment

<< Home