planiau'r haf

Fel mi ddwedais i yn y sylwadau 'ma, dw i ddim yn gallu mynd i Gaerdydd yr haf 'ma i ddysgu Cymraeg. Dw i ddim yn gallu cael credyd cwrs, a mae rhaid i mi gael credyd felly dw i'n gallu gorffen fy cyrsiau yn gwanwyn 2009 a symud ymlaen i candidacy.

OND, dw i'n mynd i Ffrainc yr haf 'ma am wythnos i cynhadledd, lle mi fydda i'n siarad am flogio yn Gymraeg. Mi fydda i'n cyflwyno fy erthygl yma. Mae rhai i chi wedi darllen drafft cynnar; mae hwn y drafft terfynol. Hefyd, mi fydd Daniel i fi yn cyflwyno erthgyl am y Blogiadur. Dros yr haf sy'n bod ar ôl, mi fydda i'n dal cwrs Portwgaleg a cyfieithu blogiau Cymraeg efo fy ymchwil.

Dw i'n gobethio fy mod i'n gallu mynd i Gaerdydd yr haf nesa i astudio, ac efallai mi fydda i'n cael ysgoloriaeth i dalu amdani hi.

A rwan, ceisio atebu cwestiynau Asuka (croeso i mlog, gyda llaw):

Myfyrwraig PhD ydw i yn Brifysgol Indiana, Bloomington, yn Library and Information Science. (Dw i'n dysgu Information Science yn unig.) Mae diddordeb 'da fi mewn "computer-mediated communication" ac hefyd y "multi-lingual internet". Hefyd, mae diddordeb 'da fi mewn materion cymuned ac hunaniaeth yn blogosphere yr iath Cymraeg.

Mi ddechreuais i ddysgu Cymraeg yn 2000 efo BBC Catchphrase ar y we, ond doeddwn i ddim mor llwyddiannus a Chris. Mi stopiais i lawer o weithiau. Mae llawer o gamgymeriadau ar y wefan Learn Welsh, felly mae'n anodd gwybod os roeddwn i'n dysgu y pethau cywir. Rwan, dw i'n astudio gyda athro ym Mhrifysgol Indiana. Hefyd dw i'n defnyddio'r llyfrau gramadeg gan Gareth King. Dw i eisiau astudio yn galed, ond weithiau dw i'n rhy ddiog, a dweud y gwir. Ond dw i'n ceisio gwneud yn well! Mi ges i fy niddordeb yn Cymraeg o'r Mabinogi (wel, ok, yn gyntaf o'r gân "Rhiannon" gan Fleetwood Mac--mae'n drwg 'da fi bawb!); dydy fy teulu ddim yn dod o Gymru yn wreiddiol (yn anffodus).

Os gynoch chi ddiddordeb, dw i wedi ysgrifennu erthgyl arall fydd yn cynhoeddi yn The Information Society yr haf 'ma. Mae'r erthgyl am ymgyrch y barth rhyngrwyd dotCYM.

3 Comments:

Blogger Emma Reese...

Diddorol iawn, Zoe. Mae dy hanes di'n debyg i fy un i. Sgen i ddim cysylltiadau personol yng Nghymru chwaith. Mi ddechreues i ddysgu'n ddwys ar ôl darllen Land of My Fathers gan Gwynfor Evans blynyddoedd yn ôl.

Dysgwr ydy Nic Dafis gyda llaw.

10:44 AM  
Blogger asuka...

diolch am yr ymateb.
"diogi" - yn dda rwy innau'n ei nabod! ond mae'n waith caled ofnadwy dysgu ar dy ben dy hunan, on'd yw hi? ac dyw cymraeg ddim yn iaith hawdd beth bynnag, waeth sut gymaint bydd y diwydiant addysgu-cymraeg-i-oedolion yn honni bod hi.
hei, o't ti'n gwybod bydd cwrs cymraeg cymdeithas madog yn iowa dros yr haf i ddod? oes bosib iti fynd i hwnnw? fues i erioed arno fe, ond rwy'n clywed pethau da amdano.
joiais i dddarllen yr erthygl dotCYM hefyd, gyda llaw.

2:09 PM  
Blogger asuka...

wps - newydd ddarganfod (drwy ddarllen sylwadau i flog emma reese) fod ti'n gwybod popeth am y cwrs 'na'n barod! ti 'di bod arno erioed?

6:57 AM  

Post a Comment

<< Home