numb3rs

(Nodiwch: Mi ysgrifennais i hwn am fy nosbarth Cymraeg.)

Mae "Numb3rs" yn rhaglen deledu Americanaidd sy'n cael ei chynhyrchu gan y brodyr Ridley a Tony Scott. Mae hi'n dilyn asiant arbennig FBI Don Eppes a'i frawd athrylith mathemategol Charlie, athro sy'n ei helpu fo i ddehongli troseddau am yr FBI. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio yn gyfartal am y berthynas rhwng Don, Charlie, a'u tad Alan, ac ar ymdrechion y brodyr i ddehongli troseddau, yn Los Angeles fel arfer. Dyma episod nodweddiadol: Mae trosedd yn digwydd. Mae tim asiantiau FBI, sy cael ei arwain gan Don, yn ei ymchwilio fo, ac mae Charlie yn ei ddisgrifio fo efo'r mathemateg, efo help oddi wrth ei ffrindiau a'i gydweithwyr Larry Fleinhart ac Amita Ramanujan.

Bob amser, mae'r mewnwelediadau o mathemateg Charlie yn hanfodol i ddehongli'r trosedd. Yng nghanol yr episod, mae tyst pwysig yn cael ei ladd. Ar ddiwedd yr episod, mae brwydr gwn yn digwydd. Mae'r dynion drwg, a weithiau tyst pwysig arall, wedi marw, ond does neb yn y tim FBI wedi marw. Mae'r rhaglen yn "formulaic"* iawn, ond dw i'n mwynhau'r rhyngweithiadau'r cymeriadau. Hefyd, dw i'n hoffi teimlo'n ddeallus, ond a dweud y gwir, dw i'n byth yn deall y mathemateg sy wedi dehongli'r trosedd.

Dw i'n hoffi'r rhaglen yn bennaf am y berthynas rhwng Larry Fleinhart a Megan Reeves (asiant FBI arall). Mae Megan yn ifancach na Larry, ond maen nhw'n edrych yn "sweet" gyda'i gilydd. Maen nhw'n atgoffa fi am fy ffrind gorau ac fi fy hun. Doeddwn i ddim yn gallu feindio llun, ond dyma clip YouTube:



* Oes gair am "formulaic" yn Gymraeg?

0 Comments:

Post a Comment

<< Home