mwy o feddyliau academig

Dw i wedi bod yn cyfieithu sylwadau ar blog Hen Rech Flin bod yn trafod blogio yn Gymraeg. Diddordeb amlwg i mi, achos dw i'n astudio hwn yn y prifysgol. Ond dw i'n cydnabod hefyd fy mod i'n cyfieithu hi achos dw i'n ceisio culhau syniadau am erthygl yn dosbarth anthropoleg o'r enw "Performing Nationalism."

Ie, ceisio "gorfodi" pwnc fel hwn nid yw'r ffordd gorau i ffeindio pwnc, ond croeso i'r Academia! Dw i'n meddwl bod rhwybeth diddorol yma, ond mae "cenedlaetholdeb" yn anodd iawn i binbwntio, yn arbennig yn ôl darllen ac sgimio ychydig o lyfrau ac erthyglau ar y pwnc. Hefyd, dw i ddim eisiau honni (fel ysgolheigion eraill) bod yn "perfformio" cenedlaetholdeb Cymraeg yn golygu yr iath yn unig, ond eto, y llwybr arbenigol 'ma ydy fy diddordeb, fel dysgwres heb perthynas achyddol amlwg i Gymru.

Ond, dw i wedi dysgu pethau pwysig:

- Mae fy Gymraeg yn rubbish, yn arbennig pan dw i'n ceisio dehongli typos ac iath sathredig. Dw i'n colli'r hyderus fy fydd i'n barod am y Cwrs Pellach ym mis Gorfennaf...

- Oes "creisis blogio Cymraeg" fel medd Nwdls yn wir? Ac ydy hwn yn cyfrannu i honiad Rhys bod blogio yn Gyrmaeg yn dirywio (os dw i wedi ddeall yr e-bost i Daniel yn cywir)? Effallai dydy'r 'creisis" dim yn cyffredinol (ar enghraifft, efo blogwyr unigol) ond dw i'n rhyfeddu faint o flogwyr bod hi wedi'n affeithio. Yn bersonal, dw i wedi parhau cyfnodau heb blogio, ond doedd hi ddim achos dw i wedi teimlo fel neb yn darllen mlog*, ond achos doeddwn i ddim yn dysgu Cymraeg yn rheolaidd neu achos doedd ddim gen i rhywbeth yn ddiddorol i ddweud. Y rheswm cynta ydy mater y dysgwr dw i'n meddwl, ond yr ail rheswm ydy y rheswm pam dw i ddim yn cadw blog Saesneg.

* Dw i'n siwr bod braidd neb yn darllen mlog, achos dw i ddim yn gallu darganfod sut rhestru hi ar y Blogiadur, neu ar y blogroll Rhys...

- Mae'r syniad Aran ac...rhwyun arall...bod blogiau yn gweini fel gofod i siarad Cymraeg efo bobl eich bod chi ddim yn nabod yn dda yn ddiddorol iawn. Ydy hwn achos mae mwy o foesgar siarad yn Saesneg (yn lleoedd dim ar-lein) os dych chi ddim yn nabod person yn dda ac dych chi ddim yn gwybod os y person yn siarad Cymaeg?

Ta waeth, dw i'n hwyr i'r parti efallai, ond roedd y cynod yn ddiddorol beth bynnag, ac mae hi wedi rhoi i fi syniadau. Rwan, mae rhaid i mi darllen mwy o lyfrau ac erthgylau ac penderfynu ar pwnc. Mae gen i fis...**

**Wel, mae gen i fis i sgrifennu erthygl deg tudalen. Mi ddylwn i penderfynu ar pwnc yn fuan!

6 Comments:

Blogger Emma Reese...

Paid meddwl bod neb yn darllen dy flog achos yn aml iawn bod rhywun yn ei ddarllen er fod o ddim yn gadael sylw bob tro.

Ta beth mae'n dda i ddysgwyr gadw blog yn gyson i ymarfer eu Cymraeg. Dw i'n diodde gan ddifyg pynciau fel arfer, ond dim ots. Mi sgwennau unrhywbeth.

Am ba Gwrs Pellach wyt ti'n sôn?

2:39 PM  
Blogger Zoe...

Heh, gweithodd ddim y linc, ond dw i wedi cyweirio i hi rwan. Y Cwrs Pellach yn Nghaerdydd.

3:46 PM  
Blogger Emma Reese...

Mi ei di i Gaerdydd! Am fis! Gwych! Gobeithio eith popeth yn iawn. Bues i yno llynedd i ymweld â ffrind. Dim ond dwy noson nes i dreulio, ac rôn i ar goll yn llwyr. Mi ddylai rhywbeth tebyg fod yn y Gogledd hefyd.

10:12 AM  
Blogger Rhys Wynne...

Sylwadau diddordol.

Mae'r syniad Aran ac...rhwybeth arall...bod blogiau yn gweini fel gofod i siarad Cymraeg efo bobl eich bod chi ddim yn nabod yn dda yn ddiddorol iawn.

Mae hyn yn wir, ond gan bod Cymru yn wlad mor fach, a bod byd siaradwyr Cymraeg yn llai fyth (pawb yn nabod pawb - drwy ysgol, coleg, gwaith, diddordebau), yna mae bron yn wir dweud bod yna fwy o siawns bod un siaradwr Cymraeg yn nabod siaradwyr Cymraeg arall na beidio.

[It may well be, that a Welsh speaker is more likely to know another Welsh speaker than not]

Ond, os nad oedd rhwyun yn nabod eu gilydd yn y 'cig-fyd' yna mae/roedd blogiau yn ffordd wych o gyfathrebu, achos chi'n gallu mynd i fanylder wrth drafod pethau a dod i nabod y person yn well. Os felly mae'n fwy diddorol darllen blog rhywun chi ddim yn nabod o'i gymharu a darllen blog rhywn rydych yn nabod.

Er bod ti ac Emma yn ysgrifennu am bethau digon cyffredin yn eich bywydau pob dydd, mae darllenwyr o Gymru yn ei weld yn ddiddorol achos mae'r gwahaniaethau bychain o fywyd yn America yn ymddangos (bron) yn egsotig i ni, ac hefyd mae diddordeb gyda ni mewn dysgwyr/siaradwyr Cymraeg eraill.

Er mod i'n aelod, dwi ddim yn ffan mawr o Facebook, ond mae eraill wrth eu bodd gyda fo. Mae'n gweithio orau gyda pobl chi'n nabod yn dda, ac felly os nad ydych wedi eu gweld yn ddiweddar yn y 'cig-fyd' yna chi'n gallu defnyddio Facebook i gadw up-to-date.

dy hwn achos mae mwy o foesgar siarad yn Saesneg (yn lleoedd dim ar-lein) os dych chi ddim yn nabod person yn dda ac dych chi ddim yn gwybod os y person yn siarad Cymaeg?

Dwi'n nghytuno â hyn am ddau reswm:
1. Toes dim byd anfoesgar am siarad Cymraeg! (ond dwi'n meddwl dwi'n deall beth ti'n ceiso ddweud) ;-)
2. Hefyd, mae siaradwyr Cymraeg yn awyddus i wybod os yw eraill yn siarad yr iaith pan yn cwrdd am y tro cyntaf, ac os ydynt, yna byddant yn defnyddio'r iaith Gymraeg, yn enwedig mewn sefyllfa 'one-to-one'.

Dod i Gaerdydd
Bydd rhaid i ni gwrdd felly, a dwi heb gwrdd â Daniel chwaith eto. Hefyd dwi'n syli bod y cwrs pellach yn gorffen diwedd Gorfennaf. Wyt ti'n ymwybodol bod yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni? Mae'n dechrau ar Awst yr ail. Byddwn i'n trefnu blog-gwrdd mae'n siwr, ond mae'n debyg mai ar gyfer diwedd y penwythnos olaf bydd hyn pan fydd y mwyafrif o bobl ifanc yn yr Eisteddfod.


Problem dy borthiant (feed)
Wyt ti wedi mynd i 'settings' ar dy blog a mynd i 'Site' feed' a gwneud yn siwr bod 'Blog Post feed' yn unai dweud FULL neu SHORT?

Fel arfer my flog feed ar blogger yn edrych fel hyn:
http://blemaergath.blogspot.com/atom.xml

ond wrth newid blemaergath am aderyncan, mae yna problem yn rhywle.

12:04 PM  
Blogger Zoe...

>>Mae'r syniad Aran ac...rhwybeth arall...<<

Wps, mi ddylwn i wedi dweud 'rhwyun'...dw i wedi ei sicrhau rwan...

Diolch am dy sylwedolau, Rhys. Maen nhw'n ddefnyddiol i fy dealltwriaeth. Ond mae drwg gen i am y sywi 'ma:

>>dy hwn achos mae mwy o foesgar siarad yn Saesneg (yn lleoedd dim ar-lein) os dych chi ddim yn nabod person<<

What I meant was, is it more polite to speak in English if you don't know a person or know if they speak Welsh when you first meet them offline. But the way I worded the question sort of assumed it was off the bat, plus whatever grammatical mistakes I made. ):

Ond mae dy ateb yn "nac ydy", yn amlwg. Ac dw i'n falch am hwn...

Beth ydy "cig-fyd"? Real life?

Ww, mae'r Eisteddfod yn Nghaerdydd eleni!? Gwych! Hmm, ond dw i ddim yn siwr os dw i'n gallu ffordio aros yn Gymru am ddwy wythnos yn rhagor. Bydd rhaid i mi weld... Ond dw i eisiau cwrdd a ti wrth grws!

Diolch am dy help gyda fy mhorthiant. Dw i wedi ei sicrhau, dw i'n meddwl. Ydy o'n gweithio rwan?

Dw i ddim yn meddwl bod pobl ddim yn darllen mlog achos mae'n anniddoral! Dw i'n meddwl bod braidd neb (almost noone) yn ei darllen achos dydy hi ddim yn rhestru ar y Blogiadur. Ond rwan fy mod i wedi cynnau y porthiant, mae hi'n gallu cael ei rhestru, dw i'n gobeithio!

6:07 AM  
Blogger Rhys Wynne...

Ydi, mae'r porthiant yn gweithi i mi a dwi wedi ei ychwanegu at fy rhestr Bloglines. Bydd rhaid i ti e-bostio Aran ar y Blogiadur i gael dy gynnwys yno.

Falch bod ti di llwyddo cael gostyngiad ar gost y cwrs - chwarae teg i Brifysgol Caerdydd am unwaith!

Hyd yn oed os na alli di ffroddio aros nes yr Eisteddfod gallwn dal gwrdd, os dwi'n iawn, mae'r Brifysgol yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i gyd-fynd 'r cwrs yn yr haf.

4:49 AM  

Post a Comment

<< Home