y cwrs pellach -- gwych!

Anfonais i e-bost i'r Canolfan Dysgu Cymraeg yn Nghaerdydd (yn Gymraeg, buddugoliaeth bach!) i gofyn am pris y Cwrs ac ostyngiad pris i fyfyrwyr. Meddwlais i oedd yr ostyngiad 'ma ar gyfer dinasyddion Prydeinig yn unig.

Wel, yn gyntaf, fy nghwestiwn:

Darllenais i fod gostyngiad pris i fyfyrwyr llawn-amser mewn addysg uwch. Ydy'r gostyngiad 'ma ar gyfer dinasyddion Prydeinig yn unig neu unrhyw myfyriwr? Americanes ydw i, ac ar hyn o bryd dw i'n mynychu prifysgol Americanaidd (Prifysgol Indiana, Bloomington).

Ac eu ymateb:

Os ydych yn fyfyriwr bydd 50% o ostyngiad yn y pris hefyd.

Gwych! Neu yn hen iath sathredig Americanaidd: Sweet!

Rhaid i mi ddweud wrth bobl yma, i weld os dw i'n gallu derbyn credit* at fy PhD. Ond mae'n edrych yn dda fy mod i'n mynd treulio yr haf yn Gymru!

* Beth ydy "credit" fel "course credit" yn Gymraeg?

3 Comments:

Blogger asuka...

mae e'n swnio fel cynllun gwych. wyt ti wedi gweld eto pa fath o ddeunydd sydd i'r cwrs? ife ar sgiliau ysgrifenedig mae e'n canolbwyntio? neu oes ffyrdd "hi-tech" 'da nhw o helpu dysgwyr i ymarfer siarad a gwrando 'fyd?

6:25 AM  
Blogger asuka...

mae'n flin 'da fi! newydd sylweddoli taw yng nghaerdydd byddi di'n gwneud y cwrs, nid o indiana (rwy'n gwybod bod rhai prifysgolion yn cynnig cyrsiau cymraeg dros y we erbyn hyn...). rwyt ti'n siwr o gael amser gwych, a lot o ymarfer siarad!

7:04 AM  
Blogger Rhys Wynne...

'credyd' a 'credyd cwrs' dwi'n siwr.

4:45 AM  

Post a Comment

<< Home