wendy

Cefnogwres ydw i am ddau blentyn o Guatemala trwy'r elusen Children International, bachen Wilson a merch Wendy. Roedd pen blwydd Wendy y 15ed o Dachwedd--ei "quinciñera" (15 mlwydd oed)--a mi anfonais i hi arian, neu "special gift."

Dw i'n newid derbyn lluniau o'i anrhegion. Prynodd hi ddillad newydd efo'r arian. Dw i'n hoffi'r lluniau yn fawr iawn; mae Wendy yn edrych mor hapus!



Ysgrifennodd hi (yn Sbaeneg, ond yn gyfieithu yn Saesneg): "Very soon will be my fifteenth birthday; all you have sent me is like a big birthday gift for me." Wel, dyna'r bwriad, Wendy fach. Ond doedd Children International ddim yn dweud wrthi hi, mae'n debyg...

6 Comments:

Blogger Emma Reese...

S'mae, Zoe. Dw i newydd sylwi fod ti'n byw yn B'ton, IN. Rôn i'n byw yno rhyw ddeg mlynedd yn ôl! Oes 'na unrhywun arall sy'n siarad Cymraeg?

9:21 PM  
Blogger Zoe...

Helo Emma! O't ti yn byw yn B'ton!? Gwych. Myfyrwraig o't ti? Mae ychydig o bobl yma sy'n siarad Cymraeg, ond dim llawer, yn anffodus. Ond mae athro yma sy'n siarad Cymraeg, a dw i'n mynd astudio efo fo y semester nesa'.

12:09 PM  
Blogger Emma Reese...

Rôn i'n byw yno efo'r teulu am bum blynedd. Fy ngwr oedd yn mynd i'r brifysgol i enill phd. Pwy ydy'r athro sy'n siarad Cymaeg? Cymro ydy o? Beth mae o'n ddysgu?

11:04 AM  
Blogger Emma Reese...

wps! "eNNill"! Dw i newydd gael fy nghywiro gan fy nhiwtor! Sori, Nia!

11:09 AM  
Blogger Zoe...

Yr athro sy'n siarad Cymraeg ydy Kevin Rottet. Athro Frangeg ydy o; dydy o ddim yn Cymro. Ond dysgodd o Cymraeg pan roedd o yn y prifysgol.

3:30 PM  
Blogger Emma Reese...

Diddorol iawn! Mi na i sgwennu ato fo.

9:34 PM  

Post a Comment

<< Home