quick post in Saesneg

I have promised a few people that I would post this pilot study on Welsh bloggers that I wrote, so here it is. It's a very rough first draft, and I expect to make many changes once my adviser gets a hold of it. (: I am taking a 1 hour independent research credit this semester to polish this up for a conference.

Anyway, I'd appreciate any comments, questions, suggestions for improvement, etc. Any thing I need to develop or explain more clearly or take out completely. Ignore my comments to myself, and ignore the first paragraph. I have to think of a better opening for it...

http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/welshbloggers2.doc

11 Comments:

Blogger James...

Dw i'n ei hoffi e ond beth am ffeindio ychydig o gyfystyron i eiriau fel 'blog', 'blogger', 'blogging', etc.

Mae cynnwys y adroddiad yn ddioddorol iawn.

Hwyl

3:46 PM  
Blogger Rhys Wynne...

Diddorol iawn, yn enwedig y dyfyniad gan Wynne, 2006 ;-)

Mae dy arolwg wedi dangos pa mor anodd yw darganfod blogiau sydd wedi eu hysgrifennu'n Gymraeg. Mae ymchwilio am y gair 'Cymraeg' yn un ffordd, ond tydi hyn ond yn gweithio cyn belled a bod rhywun yn ysgrifennu am y gair 'Cymraeg' mewn cofnod (blog post). Ond gallai ddim awgrymmu ffordd gwell fy hun, so I'll shut up

Dwi ddim yn siwr os yw'n berthnasol i'r adroddiad, ond mae nawr bosib cael blog i ymddangos 100% yn Gymraeg (or there abouts) yn dilyn cyfieithiadau
Nireblog (sgînlun)
ac yn fuan bydd wordpress.com ar gael yn Gymraeg.

Dwi'n falch i ti grybwyll y sgript dyddiadau. Cafodd hwn ei addasu a'i ddefnyddio wedyn gan flogwyr yn iaith Gaeleg yr Alban (gweler yma).
Mae hyn yn engrhaifft o gydweithio a rhannu gwybodaeth/profiad ymysg ieithoedd lleafrifol.

6:39 AM  
Blogger Zoe...

Rhys- Dw i wedi meddwl dy fydd* ti'n hoffi "Wynne 2006". (: Ac mi fyddet ti'n hoffi y fersiwn nesa', achos mi fydd hwn "Wynne 2007" hefyd am y gwybodaeth o amgylch DC ac yr iath Gaeleg yr Alban.

Ti'n iawn bod yn anodd darganfod blogiau Cymraeg efo y ffordd o ymchwilio am y gair "Cymraeg" (by looking for the word Cymraeg"), ond mae hwn y rheswm pam mi defnyddiais i moddion eraill, fel Blogiadur a link analysis. Dim perffaith, dw i'n gwybod, ond mae'n cychwyn.

Mi glywais i am Nireblog efo dy gyflwyniad CMC di. Mi fydda i ychwanegu tipyn am hwn (a wordpress, dioch) yn fy adroddiad, ond dw i ddim yn meddwl fydd hwn yn newid y canlyniadau yn fawr iawn.

* Er, would like, dw i eisiau dweud, ond paid holi fi sut defnyddio'r tense Cymraeg 'ma ar hyn o bryd!

10:45 AM  
Blogger Aled...

Hoffwn ddiolch i ti am son am Dyddiadau Cymraeg - anodd creu nes i hwna dros 3 mlynedd yn ol!

Hoffwn ddadlau rheswm ychwanegol fod cyn lleued o bobl wedi defnyddio DC - fy cyfarwyddiadau rubbish. Petae'r cyfarwyddiadau yn haws i ddeall a nid mor 'geek-centric', falle se mwy wedi ei ddefnyddio.

Mi on i'n bwriadu gwneud revision iddo fe, ond ers i nireblog a wordpress ddod i'r amlwg, sai'n gweld siwd gymaint o angen nawr.

O.N - sylwais dy fod wedi cyfieithu DC yn dy erthygl i "Welsh Days", lle "Welsh Dates" yw'r cyfieithiad cywir (dwi'n credu!)

8:44 AM  
Blogger Zoe...

Diolch Aled, am y gwybodaeth DC a fy nghyfiethiad anghywir. Dw i wedi newid hwn yn fy erthygl.

Dw i'n meddwl bod DC yn pwysig iawn am y rhesymau trafodais i (neu fydda i'n trafod yn y fersiwn newydd). Dw i ddim yn siwr os llawer o bloggers Cymraeg fydd symud eu blogiau i nireblog neu wordpress jyst yn achos wyt ti'n gallu defynddio Cymraeg yn y patrymlun yno. Fel trafodd yr erthgyl, dw i ddim yn siwr os roedd Rhys yn cywir; oes rhesymau eraill pam llawer o bloggers sy'n yma. Ond cael y gyfle i defnyddio Cymraeg yn y patrymlun ydy'n pwysig, dw i'n credu.

7:36 PM  
Blogger Nic...

Un rheswm pam bo Blogger yn fwy poblogaidd ( o bosib) yw bod 'na drafodaeth ar maes-e ar "Sut i Gymreigio dy Flog". Wna i drial ffeindio'r URL...

8:11 AM  
Blogger Nic...

Co fe.

8:13 AM  
Blogger Zoe...

Www, diolch, Nic! Diddorol iawn! Mi fydda i ychwanegu hwn i fy erthygl.

11:24 AM  
Blogger Nwdls...

Dwi mond wedi sgimio, ond mae'n edrych yn ddiddorol iawn.

11:46 AM  
Blogger Netty...

Diddorol, Annette Strauch

7:29 AM  
Blogger Sarah Stevenson...

Diddorol iawn, iawn! (A fel Rhys ro'n i'n synnu ffeindio dyfyniad gan "Stevenson 2004"!)

Gan fy mod i wedi bod yn blogio yn y Gymraeg ers 2004, mae hi wedi bod yn ddiddorol gweld sut mae pethau wedi newid, yn enwedig teitlau ar rannau'r blogiau. Pob lwc gyda'r traethawd!

5:32 PM  

Post a Comment

<< Home