mae'n swyddogol

Dw i'n sefyll y GRE ym mis. 11ed o Dachwedd. Eep.

Mi fyddwn i'n barod. Dw i'n astudio, a dw i'n dysgu. Mae'n doniol, dw i'n cofio gwneud y mathemateg 'ma yn yr ysgol, ond dw i ddim yn cofio sut gwneud y problemau. Wel, mae'n iawn: rhaid i mi ddim defnyddio'r mathemateg fy oedd i'n dysgu yn yr ysgol. :P

Ac y geirfa! Diwedd mawr... Mae gen i ffrind bod gwybod llawer o eiriau GRE; mae o'n siarad Portiwgaleg yn rhugl felly mae o'n gallu adnabod y bonion Lladinaidd. Yn anffodus (wel, dim really), mae gen i gormod o Gymraeg yn fy ymennydd i gallu adnabod y geiriau Spaeneg i helpu fi.

Wel, dim ots. Mae gen i CV nodelig (dwi'n meddwl), dau o gyhoeddiadau, a llythyrau cymeradwyaeth da. Dim ond prawf.

Felly pam dw i'n teimlo'n sal? (:

3 Comments:

Blogger Rhys Wynne...

Beth yw GRE?

8:27 AM  
Blogger Robert Humphries...

Dw i wedi sefyll yr un prawf bron i ddeg blwyddyn yn ^ol. Dim ond cof niwlog ydy'r profiad i fi heddiw, ac yn anffodus, dw i o hyd, heb fynd i goleg uwchradd. Fe raddais yn hanes; efallai fe fyddaf yn mynd i brifysgol rhyw bryd yn y dyfodol i'w astudio unwaith eto, ond ar hyn o bryd dw i'n dad i blentyn bach, ac yn gweithio yn y byd corfforaethol. Dim m^or ddiddorol i ddweud y gwir. Pob lwc efo'r prawf, Zoe.

"Graduate Record Exam" ydy'r prawf hwn Rhys - rhaid i'w sefyll er mwyn cael dy dderbyn i goleg uwchradd.

5:09 PM  
Blogger Tom Parsons...

Ro'n i'n sefyll y GRE sawl o flynydd yn ol. Mi ges i sgor ofnadwy am y rhan mathamateg, ond ges i sgor da iawn am y rhan berfol. Dw i'n hoff iawn o rhan o'r prawf sy'n profi rhesymeg, sef, "A fish is to a cat : a bone is to a ______"

2:18 PM  

Post a Comment

<< Home