yr adar

Dw i'n falch iawn fy mod i ddim yn credu yn argoelion ddrwg. Ddoe, ehedodd dau o adar yn fy ffenest. Dim un. Dau. Mae adar wedi hedfan yn fy ffenest cyn ddoe, ond bob amser maen nhw wedi goroesi. Yn affodus, mae dau 'ma wedi marw. Mi glywais i "THWMP!", edrychais i i'r chwith, a welais i aderyn sy'n syrthio i'r daear, gwaed yn y ffenest. Mi es i allan i edrych ar yr aderyn a roedd hi'n dal i fyw, ond yn marw.** A dw i wedi cyffroi iawn.

Maen amlwg efo teitl fy mlog, dw i'n siwr, fy mod i'n hoffi adar yn fawr iawn. I fi, mae adar yn symboleiddio fy nghysylltiad i Gymru. Ddarllenais i y Mabinogion a hoffais i yn fawr iawn storïau Rhiannon ac caniau ei hadar hudol hi. Dw i'n dysgu Cymraeg achos ddarlenais i'r storïau 'ma.

Mi es i tu mewn a criais i. Ar ol hanner awr, mi es i allan eto a welais i yr ail aderyn, yn marw eisoes. Roedd yr aderyn cynta' wedi marw hefyd. Dw i'n meddwl ei oedd nhw erlid ei gilydd a welon nhw ddim y ffenest. Efo padell lwch a trywel, mi symudais i nhw i'r coed nesa' i fy dy.

Dw i'n teimlo'n well heddi'. Maen nhw'n dweud bod adar yn hedfan yn ffenestri ydy argoel ddrwg, argoel o marwolaeth. Dw i ddim yn credu hwn. Teimlais i yn ddiweddar fy mod i ddim yn meddwl am creaduriaid eraill, fy mod i ddim yn gofalu. Ond mae'r ffaith fy oedd i'n crio ddoe yn profi i fi fy mod i'n gofalu yn fawr iawn. Mae hi'n trueni mae dau aderyn wedi marw, ond dw i'n falch i gwybod y ffaith 'ma.


** Diolch, Neil.

2 Comments:

Blogger neil wyn...

these two - y dau 'ma, those two - y dau yna

Still - faswn i'n defnyddio 'dal i'
e.e. Roedd hi'n dal i fyw ond yn marw.

Welais i raglen ofnadwy o drist ar S4C neithiwr efo'r naturiaethwr Iolo Williams yn darganfod mwy am y hela o adar cyfreithlon ac anghyfreithlon sy'n dal i fynd ymlaen yn Malta. Mi welom ni pob math o adar (rhai yn prin iawn) yn cael eu saethu o'r awyr neu eu thrapio mewn rhwydau. Da iawn i s4c am ddangos beth sy'n digwydd yna. Roedd y cyflwynydd Iolo bron yn crio ar adegau wrth iddyn nhw edrych o bell ar yr helwyr difeddwl.

7:25 PM  
Blogger Digitalgran...

Balch o glywed dy fod yn mwynhau y Mabinogi. Cefais fy magu ar straeon y Mabinogi, rhain fyddai fy nhad yn ddweud wrthyf pan yn blentyn. 'Roeddynt yn fyw iawn i mi gan fy mod wedi fy magu ym mhentref Nantlle, a byddai ef yn dweud mai Nantlleu oedd yr enw iawn ar y pentref gan mai yma yr oedd Lleu Llaw Gyffes yn byw.

2:56 PM  

Post a Comment

<< Home