hmm...

Yn barod dw i'n cynllunio sut dw i'n gallu dod yn ol i Gymru cyn gynted a phosib. Gawn ni ddwued "postdoc" bobl?! (: Rhaid i mi siarad a Daniel amdano...

Diwrnod da. Mi es i i Caban a prynais i "Lili dan yr Eira" gan Meinir Pierce Jones a fersiwn Cymraeg o'r Mabinogi. Wedyn, mi es i i ganol y dre a prynais i lovespoon. Yfory, af i i'r Gastell Coch.

Dw i'n hapus iawn yng Nghaerdydd. Efallai mai 'honeymoon phase' ydy o, ond dw i'n gweld y pethau drwg, hefyd. Mae 'na sbwriel yn y strydoedd. Mae pethau yn ddrud yma. Ond dw i'n hoffi'r ffaith fy mod i'n cerdded mewn dinas efo teithwyr, traffig, a siopau un munud, ac ar ol jyst 10 munund o gerdded fy mod i ar llwybr tawel ar hyd afon.

Hefyd, dw i'n dwlu ar yr arwyddion. Wrth gwrs yr arwyddion dwyieithog, ond weithiau mae Saesneg y Prydain yn achosi mi i chwerthin, fel hwn:

3 Comments:

Blogger Rhys Wynne...

Beth oeddet ti'n wneud i'r drws i beri dychryn iddo fo?

Mae'r holl sbwriel yn y ddinas yn fy ngwneud i'n ddigalon iawn weithiau. Mae pobl yn gyrru o gwmpas yn taflu pethau allan o ffenestri eu ceir heb feddwl dim am y peth.

10:39 AM  
Blogger Zoe...

Dw i ddim yn siwr pa mor aml maen nhw'n casglu'r sbwriel hefyd. Weithiau mae'n ymddangos fel rhoddodd y bobl y sbwriel mewn bag allan eu ty, ond cyn iddyn nhw'n ei casglu, rhwygodd yn agored yr adar y bagiau a lledu'r sbwriel dros y lle i gyd. (Whoa, brawddeg gymhleth!)

2:48 AM  
Blogger asuka...

wi'n lico ffor fydd pobol yn iwsio iard flaen y tŷ yn dumpster bach. ^^
balch o glywed bo ti'n joio caerdydd!

7:54 AM  

Post a Comment

<< Home