wpi!

Dw i'n ymadael a Chaerdydd yfory. Dw i'n mor excited. Dim ond y Gymraeg am ddwy fis. Dw i ddim yn siwr am y sefyllfa Internet ar hyn o bryd, os fydd gan fy stafell cysylltiad neu os fydd rhaid i mi ffeindio lle arall i mynd ar lein.

Ond...os dych chi'n byw yng Nghaerdydd, dw i eisiau cyfarfod a chi a siarad yn Gymraeg! Dw i angen yr ymarferiad (tipyn o rhybydd: mae fy Gymraeg llafar yn ofnadwy! Os gwellwch yn dda, byddwch yn amyneddgar!) (: Dw i ddim yn siwr sut trefnu cyfarfodydd. Ond mae gen i cyfrif Twitter (http://twitter.com/zoemason) felly dych chi'n gallu dilyn fi yno am fwy o wybodaeth.

Hwyl am y tro!

6 Comments:

Blogger Linda...

Helo Zoe !
Os wyt ti yng Nghymru am ddau fis , tybed os y byddi di yn steddfod y Bala ddechrau mis Awst? Mae criw bychan o flogwyr yn bwriadu cyfarfod yno . Gad i mi wybod os oes gennyt ddiddordeb. Mi fyddai'n hedfan i Gymru ymhen tair wythnos.
Siwrna saff i ti!
Linda.

11:46 PM  
Blogger asuka...

mynna hwyl! hwyl o'r hwylusa!
cofia fi at gaerdydd annwl. (ac at y gymraeg!)

6:01 AM  
Blogger Rhys Wynne...

Wedi danfon ebost at dy gyferiad yahoo (gwelais o ar neges ebost ddanfonodd Daniel Cunliffe ataf sbel yn ôl).

6:04 AM  
Blogger Nwdls...

Os ti yn Aberystwyth, gad i mi wybod a gallwn ni gwrdd am sgwrs.

rhodri [malwen] metastwnsh [dot] com

@ Linda

Bydd Gorsedd y Gîcs yn cwrdd yn y steddfod hefyd. Tisio cyfuno blog-gwrdd gyda hwnna?

5:59 AM  
Blogger Zoe...

Linda: Dw i ddim yn siwr os fydda i'n gallu mynd i'r eisteddfod ym mis Awst. Dw i eisiau, ond does dim lawer o amser rhwng y cwrsiau i teithio i'r dre, yn anfoddus.

Asuka: Dw i'n mynd i ysgrifennu cofnod am yr wythnos cynta yn fuan!

Rhys: Anfonais i e-bost atat ti am gyfarfod...

Nwdls: Dw i ddim yn siwr os fydda i'n mynd yn Aberstywth, ond dw i eisiau mynd yno un diwrnod. Dw i wedi glywed pethau neis amdano.

1:36 PM  
Blogger asuka...

edrych mlaen. cofnod llawn clecs a chwyno gobitho - na sy fwya difyr ei ddallen.
(^_-)
wi am ddallen enwau tiworiaid, gyda llaw - mae'n debyg bo finne di cael ambell un yn diwtor slawer dydd!

6:11 PM  

Post a Comment

<< Home