dyddiau cynta yng Nghaerdydd

Roeddwn i wedi bwriadu i bostio cofnodion am fy amser yng Nghaerdydd mwy o aml, ond dw i'n jyst mor flyneddig ar ol y dosbarth bob dydd. Ond fydda i'n ceisio ysgrifennu diweddaraf bach.

Mi es i i Llancaich Fawr heddiw. Roedd o'n diddorol. Neithiwr, mi es i i'r Mochyn Du a cwrddais i Rhys a'i wraig. Maen nhw'n hyfryd. Mi ges i amser da, ond o'n i'n siarad yn ofnadwy achos fy mod i wedi blino (sori, Rhys!).

Roedd y cwrs yn mynd yn dda. Yr wythnos diwetha, David, dyn o Lundain, oedd fy tiwtor. Yr wythnos hon, mae Geoff yn fy tiwtor. Mae o'n dod o Wrecsam. Dw i wedi clywed mai actor oedd Geoff yn y gorffennol, ond dydy o wedi ddim yn son amdano. Mae 9 bobl eraill yn fy dosbarth, 2 o Ariannin, 1 o Japan, 2 o Gaerdydd (neu yn agos at Gaerdydd), 1 o Lundain, ac Americanaidd ydy'r weddill, o Galifornia, Chicago, Effrog Newyydd, a fi. Maen nhw'n i gyd yn gefeillgar iawn.

Dydd Sul diwetha, aethon ni i'r Sain Ffagan. Dw i wedi mynd o'r blaen, ac roedd hi'n bwrw glaw trwy'r dydd. Ond roedd yn hwyl. O'n i'n cyfarfod ffrind newydd:



Ychydig o bethau eraill:

~ Chwaraeis i Monopoly yn y Gymraeg. Dw i erioed wedi chwarae'r gem cyn hyn.

~ Dechrais i y tan larwm ddwywaith yn fy dorm efo fy cawod. Rhedais i allan yn fy towel. :X Ond dw i wedi darganfod sut mae'r trwsio hwn, diolch byth.

~ Mae'r dafarn Blackweir yn gwneud Rum a Coke wan, yn anfoddus. Dw i ddim yn yfed cwrw neu cider, felly dw i'n yfed dwr tap. Ah wel...

~ Dw i'n dwlu ar Gaerdydd. Mae fy mam yn dweud fy mod i'n swnio yn hapusach nag erioed. Dw i eisiau symud yma. Ond sut i wneud hynny???

Oce, dyna i gyd am rwan. Hwyl!

6 Comments:

Blogger Rhys Wynne...

Dyma 'intro' Dinas, sef y rhaglen roedd Jeff yn actio ynddo, ond does dim nmodd gweld dim o;r actorion yn anffodus :-(

3:56 AM  
Blogger asuka...

hwrê am gaerdydd!

gwych darllen bo ti'n cael amser mor dda. ffyni peth na gyda'r larwm tân. wi'n cofio run peth yn digwydd rhyw ddwy flynedd nôl - ac yn yr union un adeilad mae'n debyg. so nid y gyntaf i gael y profiad monot ti, ac nid yr ola fyddi di chwaith wi'n siwr!

parthed monopoli - ti eriôd di chware hi? o ddifri? beth ro't ti'n wneud drwy dy blentyndod?

4:55 PM  
Blogger Corndolly...

Pa mor hir fyddi di yn Nghaerdydd? Oes siawns i ti ddod i'r Eisteddfod ar ddechrau Mis Awst?

8:29 AM  
Blogger Emma Reese...

Pwy ydy'r dysgwr neu ddysgwraig o Japan?

Roeddwn i'n chwarae Monopoly pan yn blentyn. Roedd y gêm fwrdd yn cael ei galw'n rhywbeth arall yn Japaneg ond fedra i ddim cofio.

10:06 AM  
Blogger Zoe...

Asuka: Plentyn "latch key" oeddwn i, felly does dim neb i chwarae Monopoli efo nhw...

Corndolly: Dw i'n gobeithio fy mod i'n gallu mynd i'r Eisteddfod am un neu dau diwrnod, ond dw i ddim yn siwr eto. Dw i'n gobeithio galla i fynd efo Chris, ond mae'n dibynnu ar y dyddiadau bod ei gyhoeddwr yn eisiau iddo i fynd (er, did that sentence make sense?). Dw i yn Gymru tan 22ain o Awst! (:

Emma: Michiko ydy ei henw hi.

1:42 AM  
Blogger Corndolly...

Bydd Emma a fi yn cyfarfod ddydd Mercher 5ed o Awst ar Faes D am 2 o'r gloch, os wyt ti yno ar yr un pryd. Dywed wrthon ni pan wyt ti'n gwybod.

2:51 AM  

Post a Comment

<< Home