diwedd y cwrs pellach

Gorffennodd y Cwrs Pellach ddoe. Alla i ddim yn credu bod y cwrs yn hanner cyflawni'n barod! Dau o feddyliau:

1) Dw i'n teimlo fy mod i'n gwybod dim byd rwan am y Gymraeg; ond

2) Dw i'n edrych ymlaen at dysgu mwy!

Hefyd, dw i'n dechrau i edrych ymlaen i fy nhraethawd estynedig. Cyn i mi ddod i Gymru, amddiffynnais i fy qualifying exam. Ar ol i mi ddatrys rhai o broblemau efo cwrsiau fy minor, mi ges i fy admission to candidacy yn aprofi. Felly rwan, doctoral candidate ydw i!

Felly, dros y fis nesa, dw i eisiau dechrau culhau fy nhraethawd estynedig ac ymchwilio'r bwnc. Rwan, dw i'n meddwl am ganolbwynt ar blogio a Twitter yn y Gymraeg, yn gynnwys amlder defnydd a'r rhwydweithiau cymdeithasol. Dw i'n meddwl am ddefnydio'r fframwaith damcaniaethol o'r enw "Diffusions of Innovation" ac yn ychwanegu rhyw theori cyfathrebi. Ha, dw i ddim yn siwr ar hyn o bryd, felly mae'n anodd i egluro. Ond rhaid i mi penderfynu'n fuan, achos dw i eisiau i orffen fy nhraethawd ymhen flwydden. Eep!

O'r gore, dyna digon o ystyriaeth fy ngwaith! Dw i'n gadael i chi i gyd efo llun arall. Dyma golwg Castell Coch:

5 Comments:

Blogger asuka...

so "zoë ABD" wyt ti erbyn hyn, ie?
llongyfarchiadau!

10:44 AM  
Blogger Corndolly...

Da iawn ar gwblhau'r cwrs Pellach. Mwynheais i'r un cwrs.

3:48 PM  
Blogger Zoe...

Corndolly: Wnest ti unrhyw cwrs trwy'r post (Pellach neu Meistroli e.e.) trwy'r Brifysgol Bangor? Dw i'n meddwl am wneud y Cwrs Meistroli trwy'r post efo nhw, ond dw i ddim yn siwr os ydy'r cwrs yn dda.

1:48 AM  
Blogger Corndolly...

Do, wnes i 'Pellach' a 'Uwch' trwy'r post. Rhaid i mi fod yn onest, mae cwrs Uwch yn eithaf diflas ar ôl gwneud Pellach. Roedd Emma Reese yn meddwl yr un peth, ac ar ôl gorffen Pellach, aeth hi yn syth i Meistroli Trwy'r Post ac mae hi'n mwynhau'r cwrs, dw i'n credu. Es i ddim ymlaen efo Meistroli gan fy mod i'n wneud Gradd yn y Brifysgol, ac hefyd dw i'n dilyn dosbarth gyda nos sy'n wneud yr un cwrs. Pe taset ti'n gallu ymuno â ni ar y maes (ddydd Mercher 5ed o Awst) byddwn ni'n gallu esbonio mwy.

3:09 AM  
Blogger Zoe...

Diolch am y gwybodaeth. Efallai fydda i'n wneud y Cwrs Meistroli efo nhw try'r post. Dw i'n gwneud y Cwrs Uwch rwan yng Nghaerdydd.

Dw i ddim yn siwr os dw i'n mynd i'r Eisteddfod eto. Dw i eisiau, ond dw i ddim yn siwr sut i mynd yno! Ond os dw i'n mynd, gobeithio ydyn ni'n gallu cyfarfod a'n gilydd yno!

1:13 PM  

Post a Comment

<< Home