gath newydd!



Mabwysiadais i gath newydd ddoe! O'n i ddim yn disgyl i ddod a hi adre mor fuan, ond doedd dim problemau efo nghais. Mae hi bron yn dair blwyd oed. Mae hi'n gath swil ond laid back; yn lle lloches yr anifeiliad (animal shelter?), ceisiodd gath arall chwarae efo hi ond roedd hi'n jyst edrych arno fo fel "Be' y ffyc dych chi ei eisiau?" Ha.

Rwan, mae hi'n cuddio o dan y gwely, wrth gwrs. (Mae hynny yn peth rhwymedig i gathod mewn lleoedd newydd, dw i'n meddwl.) Mae nghath arall, Stevie, yn hisian pan mae hi'n cerdded heibio'r stafell wely ble mae'r gath newydd yn cuddio.

Ei henw hi oedd "Mistletoe", achos daeth hi i'r shelter ger Nadolig. Ond dw i wedi newid ei henw; rwan mae'n "Maggie".

Dw i'n gobeithio bydd Stevie a Maggie'n chwarae efo'i gilydd cyn bo hir. Dydy Stevie ddim yn rhy grac ifi am ddod adre efo gath newydd, diolch byth. Ond dw i eisiau bod nhw'n bellach yn ffrindiau. Gawn ni weld...

2 Comments:

Blogger Linda...

Mi wnês ti beth da cael cath arall. Fe wnaethom ninnau run fath tua chwe mlynedd yn ôl pan ddaeth Mali i fyw i'n ty ni. Paid a phoeni gymaint am yr hisian ayb . Doedd ein cath ddu ni ddim yn rhy cîn pan welodd hi Mali am y tro cyntaf chwaith . Y peth gorau i wneud yn ôl yr SPCA ydi eu cadw nhw ar wahan am tua wythnos wedyn eu cyflwyno nhw i'w gilydd yn ara deg. Mi gawsom un episode reit gwyllt a swnllyd pan ddaru Blackie redeg ar ôl Mali drwy'r ty i gyd , ond 'roedd hyn hefyd i'w ddisgwyl medd yr SPCA. Rwan , mae'r ddwy yn ffrindiau gorau ac yn gwmpeini mawr i'w gilydd.....ond yn dal yn hoff o garlamu o amgylch y ty ben bore lol :)

2:30 PM  
Blogger Corndolly...

Mae dy gath newydd yn hyfryd ! ac mae gen ti gyngor da iawn gan Linda. Rhaid i ti wneud pethau'n araf iawn i ddechrau a bydd popeth yn iawn cyn bo hir. Hoffwn i weld llun arall ar ôl iddyn nhw ddod yn ffrindiau plîs.

3:03 PM  

Post a Comment

<< Home