gath newydd?

Ro'n i'n meddwl am cael gath arall...

Mae gen i un gath ar hyn o bryd, domestic shorthair o'r enw Stevie (ar ol Stevie Nicks, dim Stevie Wonder!). Mae hi'n saith mlwyd oed, ac ro'n i'n meddwl a oedd hi'n hapus bod yr unig gath yn y ty. Ond, pan es i i Gymru yr haf 'ma, arhosodd Stevie efo fy mam. Mae gath arall efo fy mam, gath fach "Hemingway" o'r enw Bella. Ar ol yr wythnos gynta, roeddan nhw'n bellach yn ffrindiau mawr. Chwaraeodd nhw efo'n gilydd; collodd Stevie tipyn o bwysau o'r chwarae i gyd!

Felly rwan, dw i'n tybio os ydy hi'n unig. Mae hi eisiau llawer o sylw, ond dydy hi ddim yn anarferol. Ond ydy hi eisiau llawer o sylw achos bod hi'n teimlo'n unig?! Dw i ddim yn siwr.

Ta waeth, dw i wedi bod yn edrych ar y wefan Monroe County Humane Society, a dw i wedi gweld rhai o ffrindiau potensial i Stevie. Felly dw i'n torn. Ddylwn i mabwysiadu gath arall? Beth am y posibilwyrdd fydd Stevie ddim eisiau ffrind newydd, dim ond fi? Dw i ddim eisiau colli nghath fach gariadus. Dw i'n hoffi'r fath bod hi'n eistedd yn fy lap! (:

Hmm, falle mae'n peth da iawn sgen i ddim car. Dw i ddim yn gallu mynd i'r Humane Society beth bynnag, felly mae'r peth 'ma'n "moot point", on'd ydy? (:

0 Comments:

Post a Comment

<< Home