hiraeth a stwff

Waw, y tro olaf i mi ysgrifennu cofnod oedd cyntaf o fis Awst? Ble aeth yr amser!?

Wel, dw i yn Indiana eto, a dw i wedi dechrau tymor hydref yr ysgol. Sgen i ddim cyrsiau (PhD candidate ydw i..woo!!!), ond dw i'n gweithio ar fy traethawd estynedig. Mae gen i theoretical framework ar hyn o bryd, a dw i'n mynd i wneud gwaith ymchwil am blogio a Twitter yn y Gymraeg. Ond dw i'n gweithio o hyd i ffeindio pwnc cul. Gawn ni weld...

Dw i'n hiraethu am Gymru'n barod, yn arbennig: cacen siocled y tafarn Blackweir, y Taith Taf (o'n i wrth fy modd yn cerdded ar hyd yr afon), a'r siawnsau i siarad Cymraeg efo fy ffrindiau gwych yno (shwmae Rhys, Sara, a Chris!). Dw i ddim yn colli'r adar sy'n chwerthin yn oriau man y bore!

Ond mae fy astudiaeth Cymraeg yn parhau. Un peth dw i'n ei wneud i dysgu'r iaith ydy cyfieithu caneuon Gwyneth Glyn. Roedd "Iar Fach yr Haf" yn hawdd iawn; doedd "Y Forforwyn" ddim. Dw i ddim yn siwr os ydy hi'n gall i ddefnyddio iaith yn caneuon Gwyneth i ddysgu iaith y nefoedd. Mae gormod o iaith sathredig y gogledd! Peidiwch a chamddeall i mi; dw i'n dwlu ar iaith y Gogledd. Ond mae'r iaith sathredig yn anodd iawn os dych chi ddim yn ei wybod. Er enghraifft:

"Glywist ti 'rioed g'lona yn torri ar y tonna?"

Er...dw i'n meddwl mai hwn ydy "Glywaist ti erioed [oce, 'sgen i ddim syniad o gwbwl beth ydy "g'lona"] yn torri ar y tonnau?" Ond pwy a wyr... (Os wyt ti, helpa fi, os gweli di'n da!)

Wrth gwrs, wedi dweud hynny, dw i'n falch achos dw i'n ddeall llawer o'r iaith sathredig yn barod. Un diwrnod, fydda i'n gwybod y geiriau y gyd o'r gan 'ma:



Dw i ddim yn gallu ffeindio'r geiriau ar lein, felly rhaid i mi dysgu trwy wrando'n unig. Dw i'n deall bron yn 90% ar ol i mi astudio yng Nghaerdydd. Felly dw i'n dysgu...yn araf, araf iawn.

Heblaw siarad. Dw i ddim yn gallu siarad Cymraeg yn dda o gwbwl, a dw i ddim yn siwr sut i ymarfer siarad. Fydd nghath ddim yn siarad wrtha i! Syniadau, unrhywun?

Yn olaf, mwy o luniau o fy daith hyfryd i Gymru. Yr Eisteddfod a Llyn Tegid.

Fi a fy ffrind Tony yn cael ein cyfweld yn y Gymraeg gan Carl yn yr Eisteddfod:



Fi, Arwen, ac Anna Maria yn mwynhau hufen ia da ar y Maes:



Maes B yn y bore (roeddwn i rhy hen i Maes B, ond roedd yr eiliad hwn yn hyfryd):



Llyn Tegid:



Mae mwy o luniau o'm daith yma: http://www.facebook.com/album.php?aid=2014120&id=1258112925&l=44d464500e os gynnoch chi ddiddordeb.

Hwyl am y tro!

4 Comments:

Blogger Siân...

Helo

"calonnau" ydi "c'lonna"

Dyna ddarlun trist - "Glywaist ti erioed galonnau'n torri ar y tonnau?"

Hwyl

Siân

7:12 PM  
Blogger Zoe...

Diolch, Sian! Waw, drist iawn yn wir, ond yn hardd. Ar ol i mi gyfieithu'r gan 'na, dw i'n ei hoffi mwy...

6:21 AM  
Blogger Carl Morris...

Courtenay,

Gwnaethon ni cyfweliad am prawf. Dw i'n cynghori Cymraeg i Oedolion am strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o cyfleoedd i ffilmio dysgwyr a siarad am pynciau gwahanol, ar enghraifft llyfrau, bywyd, gwaith, chwaraeon, ayyb. Diolch i ti a Tony am eich help!

Gyda llaw, dw i wedi darllen dy gwaith gyda Prifysgol Morgannwg. Diddorol.

2:26 PM  
Blogger Zoe...

Carl: Diddorol iawn! Ro'n i'n hapus i helpu. Hefyd, roedd y profiad yn "confidence building" imi...cyn hynny, ro'n i'n meddwl do'n i ddim yn gallu siarad Gymraeg o gwbwl!

1:02 PM  

Post a Comment

<< Home