arwyddion y llithrigrwydd: hiwmor

C: Ydy'r twrci'n hoffi Nadolig?
A: Dim o gwbl!

Dw i wedi ystyried trwy'r amser mai'r medr dweud jocs cyntefig (annhebyd yr un i fyny!) mewn iaith wahanol ydy arwydd rhuglder (yn tybio, wrth gwrs, bod y person yn ddoniol yn naturiol). Os dych chi'n gallu deall beth sy'n bod yn ddigon da i wneud joc addas amdani, dych chi'n gallu siarad yn braidd yn rhugl.

Er enghraifft, pan ro'n i'n astudio yn Sbaen ym 1999, cafodd yr athro rheol: tasai unrhwyun yn siarad iaith heblaw Sbaeneg, fasen nhw'n talu peseta (ie, roedd hwn cyn i'r Euro wedi cyrraedd!). Un diwrnod, ro'n ni'n siarad am yr actor Mark Walberg. Dweddodd rhwyun mai yn unrhyw grwp pop oedd ei frawd, ac roeddwn i'n (mae gen i gywilydd i gyfadde) gwybod y grwp. Felly dweddwn i (yn Sbaeneg): "Ie, Donnie Walberg; mae o yn y grwp "New Kids on the Block." Roedd dyn yno yn drallodi iawn a dweddodd o, "O! Roedd hi'n siarad Saesneg! Rhaid iddi hi dalu peseta!" Atebais i, "No, es el nombre del grupo. New Kids on the Blog. No es "Ninos Nuevos del Barrio!" [Nac oes, mae enw y grwp. New Kids on the Block. Dim "Ninos Nuevos del Barrio!"] Chwerthodd pawb, a dweddodd yr athro roeddwn i'n iawn. Ro'n i'n gwybod fy mod i ar y ffordd i siarad Sbaeneg yn rhugl.*

Hyd yn hyn, dw i ddim wedi ennill y lefel 'ma yn y Gymraeg. Fel falle byddai Rhys dweud wrthoch (os dydy o ddim mor gyfeillgar!), prin galla i adeiladu brawdeg gydlynol yn Gymraeg pan dw i'n siarad.** Dw i'n gallu ei ysgrifennu'n iawn, dw i'n gallu ei ddarllen yn eitha dda, ac dw i'm meddwl bod fy nealltwriaeth glywedol wedi codi'n arwyddocaol gan y Cwrs Haf. Dw i'n gallu meddwl am y pethau dw i eisiau eu dweud hefyd, ac maen nhw'n iawn, gan amlaf. Ond pan dw i'n dechrau siarad, neu'n ceisio rhyngweithio efo rhywun yn yr iaith, mae popeth yn gadael fy mhen ac dw i'n dweud pethau heb ystyr. Mae'r geiriau o flaen fy nhafod, ond dydyn nhw ddim yn dod. Weithiau, mae'r bendro arna i pan dw i'n ceisio siarad!

Er hynny, dw i'n dysgu, ac mae arwyddion fy mod i'n gwella. Gofynnodd un o'r bobl eraill yn fy nghwrs am acennau Americanaidd, ac gofynnodd o i mi sut mae'r acen Texas yn swnio.

Bod yn honest, roedd anodd iawn i roi ateb, achos dw i wedi gweithio'n galed iawn i golli fy acen, ac yn ol Americanwyr eraill, dw i wedi llwyddo. Dw i ddim yn gallu ailgenhedlu'r acen yn ymwybodol (er bod hi'n dianc pan dw i ddim yn ei cheisio). Ond dwedais i wrtho mai'r dau fynegiant Texas pwysycha ydy "y'all" (yr un fwy o enwog), a "fixin' ta".

Tra mae "y'all" wedi lledu trwy de yr Unol Daleithiau, mae "fixin' ta", am wn i, yn mynegiant Texas unigryw. Mae'n arwyddo "about to"; er enghraifft, mae "I am about to go to bed" yn newid i "I'm fixin' ta go to bed." Mae joc am wraig dweddodd wrth ei ffrindiau, "I'm fixin' ta vacuum" ac atebon nhw, "Why? What's wrong with it?"

Amryw dyddiau yn ol, roeddwn i'n eistedd yn y caffeteria efo ffrindiau ac roeddwn ni'n meddwl am y sgwrs cynta am acennau. Penderfynais i roedd angen i greu acen "Texan Cymraeg" i ddynwared siarad Cymraeg mewn acen Texas drwm. Cofiais i wnaeth Chris rhwybeth yn debyg (trwy ddamwain) ar ei v-log (felly, "mae hi wedi amswer" oedd "mah hee weh-dee ahm-ser"). Sylwedolais i mai ymgorffori "fixin' ta" oedd yn pwysig iawn. Y canlyniad:

Dw i'n trwsio mynd i'r gwely.

Neu, mewn acen TX:

Dww een trww-sio mynd ee'r gweh-lee.

Paid poeni, dw i ddim yn mynd i halogi'r heniaith efo'r acen! Chwerthodd fy ffrindiau, a dyna'r unig gyrchnod. Ond mae'n dangos bod gobaith i mi dysgu Cymraeg i rhuglder. Achos ar ol i mi truelio tair awr yn y Mochyn Du nos Iau yn siarad a Rhys a'i ffrindiau heb y medr i ddweud pethau hawdd fel "before it gets dark" (heb? tan? Nage, "cyn"!), dw i angen y calondid i gyd fy mod i'n gallu ei derbyn!***

~~~~~~~~~~~~~~~~~

*Dim syniad beth sy wedi digwydd iddo... :P

**Mae'n cywilydd dw i ddim yn hoffi cwrw. Falle byddai hynny yn helpu fi yn anferth.

***Er bod rhaid i mi ymestyn llawer o ddiolch i Rhys ac Oliver, pwy oedd yn amyneddgar ac yn gynorthwyol iawn, er mai egluro'r cyfundrefn iechyd Americanaidd yn Gymraeg ydy dros fy ngallu ar hyn o bryd!